top of page

I blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun

Wyt ti’n gofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl? Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gwneud hyn. Rydym ni yn meddwl dy fod yn anhygoel.

​

Weithiau caiff pobl ifanc dan 16 oed eu galw’n ofalwyr ifanc a gelwir pobl ifanc dan 25 oed yn oedolion ifanc sy’n gofalu.

 

Gall gofalu am rywun dy helpu di i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau mewn gofalu, bod yn drefnus, cael empathi, a thrafod anawsterau. Gall deimlo’n wych i helpu rhywun arall. Rydym yn gwybod hefyd y gall fod yn heriol i gefnogi rhywun tra dy fod yn jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd megis ysgol / prifysgol/ gwaith/ ffrindiau / bywyd cymdeithasol, a pha mor bwysig yw hi i gael rhywun y gelli di estyn allan atynt, am sgwrs.

​

Byddi’n gallu:

  • Sgwrsio gyda’n gweithiwr allanol am yr hyn sy’n digwydd i ti ac unrhyw gefnogaeth y byddi di ei angen o bosibl

  • Ymuno â grŵp neu weithgareddau gofalwyr ifanc sy’n agos atat ti

  • Ymuno ar-lein

  • Cymryd rhan mewn teithiau a digwyddiadau

  • Cael cefnogaeth i weithio gyda’th ysgol i oresgyn yr heriau a ddaw wrth jyglo gofalu a dysgu

  • Cael cefnogaeth i feddwl sut i fynd i’r brifysgol / cael gwaith pan fyddi’n gofalu am rywun

 

Rydym hefyd yn trefnu grwpiau cefnogaeth a gweithgareddau, a byddant yn gallu dy gysylltu gyda gofalwyr ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

 

 

Mae Credu yma i ti ac fe fyddwn yn gweithio gyda thi i gyflwyno’r union gefnogaeth sydd ei hangen a’i heisiau arnat ti.

BreakOutCredu53.jpg

Yr hyn mae Gofalwyr Ifanc yn ei ddweud

"Mae bod mewn cysylltiad gyda Gofalwyr Ifanc wedi gwneud cymaint o wahaniae"

"Rwy'n hoffi trefnu pethau gyda Credu oherwydd mae'n hwyl ac yn gwneud i beth ddigwydd"

"Mae clwb yn wych ac yn rhywle lle y gallaf fod yn fi!"

Video Group Chat illustration
What young carers are saying
Young Carers Rights

Hawliau Gofalwyr Ifainc

Daw hawliau plant a phobl ifanc o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. 

Eich hawliau fel Gofalwr Ifanc:

​

  • Yr hawl i ddysgu a chael addysg

  • Yr hawl i gwrdd â ffrindiau a mwynhau grwpiau a chlybiau

  • Yr hawl i ymlacio a chwarae

  • Yr hawl i breifatrwydd

  • Yr hawl i ddweud beth ddylai digwydd yn eich barn chi a chael rhywun i wrando arnoch

​

Cofiwch gysylltu â Credu os oes angen unrhyw gymorth gyda’ch hawliau!  carers@credu.cymru/ 01597 823800/ Credu Carers on Facebook.

School and Education

Yr Ysgol ac Addysg

School pickup sisters illustration

Cwrdd a Chyflawni

Byddi’n gallu dod o hyd i rai o’n digwyddiadau yma neu ein ffonio ni / Anfona neges dros Facebook / siarada gyda’th Weithiwr Allgymorth lleol i ganfod mwy am yr hyn sy’’n cael ei gynnal i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Gofalu yn dy ardal.

BreakOutCredu4.jpg
Meet and Do
BreakOutCredu9.jpg

Rwyt ti’n bwysig hefyd...

Beth am fod yn gymdeithasol

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Cyfle i dderbyn y newyddion diweddaraf, a manylion digwyddiadau, tripiau a gweithgareddau hwyl i’w gwneud ar-lein trwy gofrestru ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

 Colorful Bird Illustration
Social Media
Useful Links

Rhifau a Dolenni Defnyddiol

Credu - Cysylltu Gofalwyr:

Ffôn: 01597 823800

Facebook: Credu – Cysylltu Gofalwyr

 

999 mewn argyfyngau neu 101 am gyngor:

e.e. ‘Dwi’n meddwl ein bod yn cael ein bwlio yn ein tÅ· gan fod sbwriel yn cael ei daflu i mewn i’n gardd trwy’r amser.

 

Kooth:

 

Childline:

0800 1111

 

MIND 16 mlwydd a hÅ·n:

01597 824411

 

PAPYRUS:

Atal hunanladdiad: 0800 068 4141

 

Llinell gymorth i Ofalwyr Ifanc:

0300 123 1053

 

Eiriolaeth Powys i blant dros Gynhaliaeth Plant Powys:

01982 552450 

    - yn rhoi llais i ti pan wyt ti’n teimlo fel nad oes un gennyt ti

 

young carers.net:

Yn cynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau, dolenni i sefydliadau cymorth cenedlaethol a lleol, a chyfeirlyfr o wasanaethau. (9am tan 8pm, Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) (11am tan 4pm ar benwythnosau). Gallwch ofyn am alwad yn ôl mewn un o fwy na 170 o ieithoedd.

 

Dewisiadau’r GIG – Gofalwyr Ifanc:

Mae’r rhan hon o’r safle ar gyfer pobl ifanc sy’n gofalu am rywun sy’n  sâl neu anabl. Efallai y byddi wedi dechrau gofalu heb ei sylweddoli. Yn y rhan hon, byddi’n gallu canfod mwy am: Sut i ddweud os wyt ti’n Ofalwr Ifanc, Pwy all dy helpu di a hawliau Gofalwyr Ifanc.

 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr: Swyddfa Pencadlys: 0300 772 9600

 

The Honeypot:

Mae honeypot.org.uk yn gweithio i wella bywydau Gofalwyr Ifanc 5-12 mlwydd oed trwy ddarparu egwyliau seibiant.

 

SIBS: I frodyr a chwiorydd i blant ac oedolion anabl - Sibs.org.uk Mae Sibs yn bodoli i gefnogi pobl sy’n tyfu i fyny neu sydd wedi tyfu i fyny gyda brawd neu chwaer anabl

Zoom Call illustration
bottom of page