top of page

Help Ymarferol

Weithiau yr hyn mae gofalwr wirioneddol ei angen yw ychydig o help ymarferol i wneud pethau. Heriau dyddiol yw’r rhain y bydd gofalwyr weithiau yn canfod eu hunain yn eu hwynebu am y tro. Weithiau y rheswm dros hyn yw oherwydd na all bethau barhau fel ag y maent yn unig, a’r rheswm weithiau yw bod rhywbeth annisgwyl wedi digwydd neu fod argyfwng.

credu153.jpg

Ysbyty i’r Cartref

Gallwn fynd i’r ysbyty mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol. Weithiau mae’r sefyllfaoedd hyn wedi’u cynllunio, weithiau mae’n argyfwng. Wrth adael ysbyty, efallai y bydd cynllun gofal yn cael ei gyflwyno i chi os ydych chi neu’r unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani angen cefnogaeth barhaus. Weithiau pan fyddwch yn gadael yr ysbyty, efallai y bydd Tîm Ail-alluogi’r cyngor yn cysylltu â chi. Bydd y Tîm Ail-alluogi yn cynnwys Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, a gweithwyr cefnogi sydd wedi’u hyfforddi.

 

Unwaith y byddwch wedi’ch atgyfeirio, byddant yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad er mwyn i rywun o’r tîm ymweld â chi a gwneud asesiad.

 

Gall yr asesiad gynnwys aelod o’r teulu os ydych yn dymuno, ac fe fydd yn dynodi beth ydych chi (a’r unigolyn sy’n derbyn gofal oddi wrthych) eisiau gallu ei wneud a sut y gall y tîm eich helpu. Fe fyddant yn gweithio gyda chi fel arfer rhwng dwy a chwe wythnos. Cyn iddynt orffen, fe fyddant yn cynllunio unrhyw help pellach sydd ei angen ac yn sicrhau ei fod yn cael ei sefydlu.

 

Am ragor o wybodaeth am Dîm Ail-alluogi Powys, edrychwch ar:

Hospital to home

Dysgu Sgiliau Newydd i Ofalu

Mae tudalen digwyddiadau Credu yn lle da i chwilio am gyrsiau hyfforddi.

Mae Cyngor Sir Powys yn rhoi mynediad i’w hyfforddiant mewnol i ofalwyr di-dâl. Gallwch gadw lle i’ch hunan ar y cyrsiau i ddysgu pethau megis codi a chario a chymorth cyntaf. Mae tâl ar gyfer rhai o’r cyrsiau ond mae eraill yn rhad ac am ddim. Gallwch sgwrsio gyda Credu am drafod y costau neu gael mynediad at gwrs sydd wedi’i deilwra i Ofalwyr.

 

I ganfod mwy am y cyrsiau sydd ar gael, gallwch ffonio Adran Hyfforddiant Cyngor Sir Powys ar

01597827330/01597827333  neu edrych ar:

I ganfod mwy am sut y gall Credu helpu i ddarparu ar gyfer y gost, cysylltwch â ni ar 01597823800.

Learning new skills to care

Technoleg sy’n Helpu Gofalwyr a’r Bobl y maent yn Gofalu Amdanynt

Ym Mhowys, mae nawdd ar gael i ddarparu cynnyrch techneg gynorthwyol am ddim i ofalwyr megis clociau, ffonau, synwyryddion symudiadau, peiriant galw, a llawer mwy.

 

Dylai’r dechnoleg hon helpu i:

  • Osgoi cwympiadau neu liniaru effeithiau cwympo trwy rybuddio ac adnabod cynnar.

  • Osgoi achosion o unigolion yn mynd ar goll.

  • Osgoi neu ohirio derbyn unigolion i gartrefi gofal.

  • Osgoi derbyniadau sydd eu cynllunio i’r ysbyty.

  • Atgoffa pobl i gymryd meddyginiaeth.

  • Lleddfu ychydig o’r pwysau arnoch fel Gofalwr.

 

Dewch i gysylltiad gyda Chyngor Sir Powys ar 03456 027050 ar gyfer y llawlyfr mwyaf diweddar gan fod cynnyrch yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd, a rhowch wybod iddynt os oes unrhyw eitemau ychwanegol y dylid eu hychwanegu a fyddai’n gwneud eich bywyd yn haws. Os oes darn o gyfarpar nad yw’r nawdd yn darparu ar ei gyfer, fe fyddant yn gwneud eu gorau i ganfod ffynonellau eraill o nawdd ar eich cyfer. Os ydych yn dymuno prynu unrhyw gyfarpar yn uniongyrchol eich hunan, gwiriwch y catalog Diogel ac Iach ar-lein.

Technology that helps carers

Awgrymiadau Ymarferol ar gyfer Gofalu

Mae gan Wefan y GIG yr awgrymiadau ymarferol canlynol i ofalwyr:

 

  • Meddyginiaethau: Awgrymiadau i Ofalwyr.

  • Sut i fwydo rhywun rydych yn gofalu amdanynt.

  • Sut i helpu rhywun rydych yn gofalu amdanynt i gadw’n lân.

  • Sut i ofalu am rywun sydd ag anawsterau cyfathrebu.

  • Sut i symud, codi a thrafod rhywun arall.

  • Sut i ddelio ag ymddygiad heriol mewn oedolion.

Practical tips for caring
bottom of page