top of page
credu logo illustration

Ystyr credu yw 'credu' yn Gymraeg.

Rydym yn credu mewn pobl, ein diben a’n hegwyddorion:

Diben Credu

I bob gofalwr ifanc ac oedolyn sy’n gofalu i fwynhau llesiant fel y maen nhw’n ei ddiffinio, i gael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi a chael dewisiadau, llais a dylanwad

 

Egwyddorion Credu

  • Gwerthfawrogi pob unigolyn yn y ffordd rydym yn meddwl, yn siarad ac yn gweithredu. Rydym yn gwneud caredigrwydd yn flaenoriaeth.

  • Gwrando i ddeall

  • Canolbwyntio ar gryfderau pob unigolyn a galluogi pobl i rannu a defnyddio eu doniau lle y maent yn dymuno

  • Canolbwyntio ar y deilliannau sy’n cyfrif i’r unigolyn a gefnogwn, eu teuluoedd a’u cymunedau

  • Gwneud yr hyn sy’n cyfrif pan y mae’n cyfrif

  • Gwerthfawrogi perthnasoedd a rhwydweithiau a adeiladwyd ar ymddiriedaeth

  • Bod yn ddewr a gwneud yr hyn sy’n iawn, nid yr hyn sy’n hawdd

  • Myfyrio a dysgu a rhoi lle i eraill i fyfyrio a dysgu.

Knighton81.jpg
Credu's Purpose
Credu's Principles

Mae gan Ofalwyr lais a dylanwad cryf ar wasanaethau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Cysylltu cymunedau a sefydliadau gofalgar (e.e. ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cymdeithasol) sy’n cefnogi a galluogi gofalwyr o bob oed a’u teuluoedd.

Triple Mission Logo Welsh
White line Squiggle
White line Squiggle
White line Squiggle

Mae gofalwyr ifanc/ oedolion sy’n gofalu a’u teuluoedd sydd wedi’u grymuso yn cael gwrandawiad, yn cael eu deall, yn gallu gwneud dewisiadau yn seiliedig ar wybodaeth ac yn symud at ddeilliannau sy’n gwella bywydau

Nid ydym bellach yn sefydliad, rydym yn fudiad Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu

Triple Mission
  • Mae Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu wrth wraidd popeth a wnawn.

  • Mae gennym fwrdd mawr a rhagweithiol o ymddiriedolwyr, sy’n Ofalwyr neu gyn-ofalwyr yn bennaf gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad.

  • Mae gennym arweinwyr tîm sirol, gweithwyr allgymorth a leolir mewn mannau penodol a rhwydwaith o wirfoddolwyr sy’n tyfu, gyda llawer ohonynt yn Ofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu sy’n cyflwyno amrywiaeth eang o gefnogaeth ar-lein neu mewn lleoliadau penodol.

  • Mae gennym dîm cefnogi bach iawn sy’n cynnwys cydlynu gwirfoddolwr, man cyswllt cyntaf medrus a chefnogaeth weinyddol ac ariannol.

Ein Harolwg Blynyddol

Our Annual Review

Dull Credu

Rydym yn gobeithio y bydd y llawlyfr hwn ar arfer yn adnodd cefnogol i’r holl staff a gwirfoddolwyr yn Credu. O fewn tudalennau’r PDF hwn, fe fyddwch yn canfod ein strategaeth, ein diben a’n hegwyddorion ynghyd ag egwyddorion ar gyfer gwahanol agweddau ein cenhadaeth. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ganllaw tywys galluogol fel y byddwch yn gweithio gyda Gofalwyr a chymuned. Cyn belled ag y byddwn yn ceisio’n gyson i weithio o fewn y diben a’r egwyddor yma, fe fydd gennym lawer o ryddid i ymateb yn y ffordd orau y gallwn gyda phob unigolyn a chyd-destun.

The Credu Way

Gweithdrefn Gwyno

Lawrlwytho yma:

Hanes Credu

Gwasanaeth Gofalwyr Powys oedd ein henw (ac sy’n parhau i fod yn enw cyfreithiol arnom), pan y sefydlwyd ni yn 2003. Mae un o’n sylfaenwyr cychwynnol, Ann Williams, yn parhau i fod yn ymddiriedolwraig. Yn yr 1990au, fe frwydrodd yn ddiwyd i gael cydnabyddiaeth a chefnogaeth i Ofalwyr Ifanc, gan uno cefnogaeth i ofalwyr ifanc ac oedolion sy’n gofalu wedi hynny. Aethom ati wedi hynny i adeiladu tîm bychann o weithwyr allgymorth oedd yn cefnogi Gofalwyr o bob oed led led Powys.   

Rydym wedi adeiladu enw da cryf yn lleol ac yn genedlaethol ac yn 2014, cawsom ein comisiynu i gefnogi Gofalwyr Ifanc ar draws Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych. Yn 2019, roeddem wedi cael ein comisiynu i gefnogi Oedolion sy’n Gofalu yng Ngheredigion ac ers 2022, rydym wedi gallu cefnogi Gofalwyr Ifanc yng Ngheredigion.

 

Rydym yn parhau i weld ein hunain fel sefydliad bychan gyda chalon fawr sy’n gofalu’n ddwfn am y cymunedau lle’r ydym yn gweithio. Rydym yn Bartner Rhwydwaith o fewn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn helpu Gofalwyr i ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth ac yn ein cefnogi ni i fod yn effeithiol yn lleol.

 

Pwy sy’n ariannu Credu?

Rydym yn cael ein hariannu gan Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, ac rydym bob tro yn ddiolchgar am gyfraniadau a chodi arian cymunedol.

Credu's History
Who Funds Credu
bottom of page