top of page

Cerdyn Rwy’n Gofalu (iCare)

Cerdyn Rwy’n Gofalu (iCare) / Cerdyn Gofalwyr Ifanc Powys

iCare Logo

A fyddai cerdyn sy’n eich dynodi fel Gofalwr neu ofalwr ifanc yn eich helpu chi?

Os felly, gall cerdyn Rwy’n Gofalu Powys fod yn addas i chi.

Yna aml, rhaid i ofalwyr:

  • Gasglu presgripsiynau i’r unigolyn maent yn gofalu amdanynt

  • Casglu bwyd ychwanegol ar gyfer eu hanwyliaid

  • Gwneud teithiau hanfodol, yn union fel gweithwyr gofal cyflogedig.

Gallai’r cerdyn adnabod sicrhau eich bod yn eich blaenoriaethu mewn siopau a fferyllfeydd.

Os hoffech ymgeisio am Gerdyn Rwy’n Gofalu, cysylltwch â carers@credu.cymru / 0333 014 3377.

Yellow Flowers

Y gallu i gael gostyngiadau llwyr haeddiannol gyda’r Cerdyn Rwy’n Gofalu

 

Gall gofalwyr sydd wedi’u cofrestru gyda Credu gael Cerdyn Rwy’n Gofalu. Mae hynny’n rhoi’r gostyngiadau canlynol ar hyn o bryd, gyda mwy yn cael eu datblygu:

 

Freedom Leisure- Gostyngiad o 50% ar sesiynau campfa a nofio cyhoeddus.  Mae rheolau arferol Canolfan Hamdden yn berthnasol (plant yng nghwmni oedolyn ac ati – cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden os oes gennych unrhyw ymholiadau.

https://en.powys.gov.uk/leisurecentres

​

  • Gwesty’r Manor Crughywel – gostyngiad o 20% oddi ar aelodaeth hamdden misol​

  • Jayne's Flowers Studio- gostyngiad o 10% 

Ymgeisio am Gerdyn Rwy’n Gofalu (iCare)

I ymgeisio am eich cerdyn dros E-bost – Cysylltwch â carers@credu.cymru, gan atodi eich ffotograff.

Dylech hefyd gynnwys eich enw a’ch rhif ffôn cyswllt.

 

I ymgeisio am eich cerdyn trwy’r post – Anfonwch ddatganiad atom yn dweud:

 

Hoffwn ymgeisio am Gerdyn iCare ac rwyf wedi amgáu ffotograff o fath pasbort.

 

Enw: . . . . . . . . . . . . . . . . . . .. . . . . . . . . . . . . . . .  Ffôn . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

 

Cyfeiriad: Credu (RHADBOST), Oasis, Spa Road, Llandrindod Wells, LD1 5ER

 

 

Edrychwch am gynigion yn y dyfodol gan ddefnyddio eich Cerdyn Rwy’n Gofalu – rydym yn bwriadu gweithio gyda busnesau a gweithgareddau lleol i adnabod y Cerdyn Rwy’n Gofalu a chael cynigion arbennig i Ofalwyr. Bydd rhagor o wybodaeth i’w gael trwy ein cylchlythyr a’n gwefan – edrychwch ar www.credu.cymru

 

Os ydych yn gwybod am fusnes/gwasanaeth lleol fyddai’n hoffi cymryd rhan yn y cynllun Rwy’n Gofalu, ffoniwch 0333 014 3377 neu anfonwch e-bost at carers@credu.cymru

Health and Social Logo
NHS wales Logo
NEW waterloo_foundation_logo_cmyk (002).jpg
Community Fund Logo
Powys Logo
Welsh Government Logo
EFF logo Colour
The Rank Foundation logo
Carers Trust Wales Logo

Elusen gofrestredig yw Credu yn Cefnogi Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu Cyfyngedig (Gwasanaeth Gofalwyr Powys yn flaenorol) yng Nghymru a Lloegr (rhif 1103712), a chwmni cyfyngedig trwy warant (rhif 04779458).

Gofalwyr Cymru

©2022 gan Mogwai Media

Mogwai Media Yellow Ms Logo

Dyluniwyd gan:
Mogwai Media LTD

bottom of page