01597 823800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Ysgol ac Addysg
Ar y dudalen hon, byddi’n dod o hyd i wybodaeth am
- Yr hyn mae Gofalwyr Ifanc eraill yn ei ddweud
- Prif awgrymiadau oddi wrth Ofalwyr Ifanc
Cefnogaeth i ti
Os wyt ti’n helpu i ofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl, boed os yw’n frawd/chwaer/mam/tad/nain/taid neu aralll …. rydym yn gwybod y gall fod yn anodd weithiau i jyglo dysgu gyda gofalu.
Mae nifer o ofalwyr ifanc yn gwneud yn wirioneddol dda gyda’u haddysg ac yn mynd ymlaen i wneud pethau maen nhw’n ei fwynhau ac yn angerddol amdano. Mae eraill yn straffaglu am resymau sy’n hawdd iawn eu deall. Rydym yma i’th gefnogi di gyda’r hyn sy’n cyfrif fwyaf i ti yn y ffordd sydd yn gweithio orau i ti.
Byddi’n gallu:
-
Siarad gyda dy weithiwr allgymorth lleol am unrhyw beth – boed os wyt ti eisiau meddwl yn uchel gyda rhywun sy’n gofalu neu eisiau cynllunio unrhyw gefnogaeth y byddi ei angen o bosibl
-
Gofyn i ni helpu dy ysgol i’th gefnogi, tra’n parchu dy breifatrwydd ac fel na fydd’'n cael dy weld fel bod yn ‘wahanol’
-
Cael Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc oddi wrth Credu a siarad gyda’th ysgol am dy gyfrifoldebau gofalu.
-
Gofyn i’th ysgol gysylltu â ni.
-
Gofyn i ni wneud cyswllt gyda’th ysgol a’u helpu gyda pholisi Gofalwyr Ifanc, hyfforddi athrawon, gwasanaethau a gwersi ABGI (Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd).
-
Gofyn i ni am help wrth sesiynau galw heibio rheolaidd yn dy ysgol os nad ydych yn eu cael eisoes.
-
Trafod opsiynau ynghylch gwneud cynllun i barhau gyda’th addysg neu waith wedi’r ysgol tra’n jyglo gofalu.
Mae nifer o ofalwyr ifanc yn dweud wrthym ni fod jyglo addysg tra’n gofalu yn her. Mae rhai Gofalwyr Ifanc yn cael eu haddysgu gartref, tra bo eraill yn mynd i’r ysgol/ addysg bellach.
Dyma beth mae Gofalwyr Ifanc yn ei ddweud:
'Rydym yn gofalu am ein gilydd yn yr ysgol”
"Mae fy ysgol wedi bod yn wirioneddol gefnogol, ond 'dwi'n gwybod nad yw pob ysgol yr un fath"
Yr hyn mae rhieni yn ei ddweud:
"Mae Megan wedi tyfu mewn hyder cymaint ers iddi ddod i gysylltiad gyda chi, mae’n gwneud yn well yn yr ysgol hefyd!"
Prif Awgrymiadau oddi wrth Ofalwyr Ifanc eraill
Mwy o Wybodaeth
Yn dod yn fuan...
Dod yn eiriolydd ysgol i ofalwyr ifanc neu’n fentor ar gyfer gofalwyr ifanc eraill
Gall rhai gofalwyr ifanc gael hyfforddiant ac adnoddau i ddod yn eiriolwyr ysgol, bydd eraill yn dod yn fentoriaid i Ofalwyr Ifanc eraill yn eu hysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r cyfleoedd hyn, neu os oes gennych syniadau eraill, fe fyddem wrth ein boddau yn eu clywed oddi wrthych:
Cefnogaeth i ysgolion
Y peth mwyaf pwerus y gall ysgol ei wneud i Ofalwyr Ifanc yw eu cydnabod a’u gwerthfawrogi fel Pobl Ifanc gyda chyfrifoldebau pwysig iawn.
Cydnabod Gofalwyr Ifanc
Gall cydnabod Gofalwyr Ifanc fod yn anodd oherwydd mae pob Gofalwr Ifanc yn wahanol. Mae rhai yn jyglo addysg gyda chyfrifoldebau gofalu.
Gan fod pob Unigolyn Ifanc yn wahanol iawn, bydd y ffordd orau o gefnogi pob gofalwr ifanc yn deillio o sgyrsiau gyda hwy a’u teulu o bosibl hefyd. Gall Credu helpu gyda hyn os byddwch ei angen.
Mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc a gynhelir pob mis Mawrth yn ffordd wych o Godi Ymwybyddiaeth a Gwerthfawrogi Gofalwyr Ifanc yn y calendr ysgol . Byddai codi arian i Ofalwyr Ifanc lleol trwy Credu yn anhygoel.
Mae Credu yn cefnogi ysgolion i gefnogi Gofalwyr Ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd
-
Help i gydnabod a chefnogi Gofalwyr Ifanc
-
Atgyfeirio Gofalwr Ifanc
-
Gwasanaethau / gwersi i godi ymwybyddiaeth
-
Hyfforddiant i athrawon ar gefnogi gofalwyr ifanc
-
Posteri / arddangosfa wybodaeth i Ofalwyr Ifanc
-
Help i sefydlu sesiynau galw heibio i Ofalwyr Ifanc
Dyma ychydig o adnoddau:
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru eAdnoddau i Weithwyr Addysg Proffesiynol i Gefnogi Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion a Cholegau – Adnoddau – Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Dyma Bolisi Gofalwyr Ifanc drafft i’ch ysgol:
Cefnogaeth i addysgwyr yn y cartref
Os ydych yn addysgu eich plentyn yn y cartref ac yn meddwl eu bod yn Ofalwr Ifanc o bosibl oherwydd bod rhywun yn eich teulu, neu ffrind agos yn sâl neu’n anabl mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu.
Boed os ydych eisiau siarad gyda rhywun am syniadau neu bryderon sydd gennych chi, neu os hoffech wybod mwy am gefnogaeth bosibl i’ch teulu, fe fyddem wrth ein boddau’n clywed oddi wrthych!
Dolenni Defnyddiol
Edrychwch ar y ddolen hon oddi ar wefan Y Gymdeithas i Blant am ymdopi yn yr ysgol.
Bydd gan bob sefydliad ei adnoddau a’i ffynonellau ei hunan o gefnogaeth.
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr mewn coleg/ prifysgol o ddewis yn lle da i ddechrau.
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Cymru – Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol De Cymru
Mae awgrymiadau ar wefan UCAS i ofalwyr sy’n edrych i ymgeisio am brifysgol.
Mae’n cynnwys awgrymiadau i ofalwyr sydd eisiau mynd i’r brifysgol gan gynnwys tudalen i ofalwyr ar sut i ysgrifennu Datganiad Personol
Cefnogaeth i Ddarparwyr Gwasanaeth Addysg
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau ar gyfer gwasanaethau sy’n cefnogi Gofalwyr Ifanc yn yr ysgol ac Oedolion Ifanc sy’n Gofalu/ Oedolion sy’n Gofalu mewn Addysg Bellach ac Uwch.
and Young Adult / Adult Carers in Further and Higher Education.