01597 823800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Cynllunio Brys
Mae gofalwyr yn aml yn poeni am yr hyn fyddai’n digwydd i’r unigolyn/unigolion maen nhw’n eu cefnogi os na fyddent yn gallu parhau i ddarparu gofal am unrhyw reswm. Mae cael cynllun argyfwng yn helpu i roi heddwch meddwl.
Efallai fod gennych syniad clir o’r hyn y byddech yn ei wneud mewn argyfwng a phwy arall fyddai’n helpu, boed yn ffrindiau / perthnasau neu weithwyr proffesiynol.
Fodd bynnag, gall hyn fod yn anodd weithiau, felly mae croeso i chi ein ffonio ni os ydych eisiau help i feddwl trwy eich cynllun.
Gallwch hefyd:
-
Gael ‘Cerdyn Argyfwng’ oddi wrthym ni. Fe fydd hyn yn eich galluogi i gofrestru eich cerdyn argyfwng a phrif gysylltiadau gyda gwasanaeth 24 awr. Fe fyddwch yn gallu cario’r cerdyn gyda rhif ffôn y cynllun a rhif adnabod unigryw. Os cysylltir â’r cynllun mewn argyfwng, fe fyddant yn gallu gwneud y galwadau ffôn angenrheidiol (personol neu broffesiynol, neu’r ddau) i sicrhau gofalu am yr unigolyn yn eich gofal. Mae cael y cerdyn hwn yn unig yn rhoi heddwch meddwl ychwanegol i nifer o Ofalwyr. I gael y cerdyn, gallwch ein ffonio ni ar 01592 823899 neu anfon e-bost at: info@credu.cymru, neu lawrlwytho’r ffurflen a’i hanfon naill ai dros e—bost neu at RHADBOST CREDU yn Marlow, South Crescent, Llandrindod, LD1 5DH
-
Ewch ati i gael ‘Neges mewn Potel’ oddi wrth y Lion’s Club trwy anfon e-bost neu ein ffonio neu ofyn i’ch meddygfa neu fferyllfa. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i roi gwybodaeth feddygol ar yr oergell yn eich cartref ar eich cyfer chi neu’r unigolyn sy’n derbyn gofal oddi wrthych. Bydd y Gwasanaethau Brys yn ei weld os ydych chi neu’r unigolyn sydd yn eich gofal yn sâl. Mae’r ddolen hon yn dweud mwy wrthych chi am sut mae’r cynllun yn gweithio Lions District 105SC - (lions105sc.org.uk)
-
Edrychwch ar Carers UK: tudalen gwe ar gynllunio ar gyfer argyfyngau - Carers UK