01597 823800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Asesiad Gofalwyr
Beth yw Asesiad Gofalwyr?
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig asesiad i unrhyw Ofalwr
(neu rywun sy’n cynllunio gofalu am rywun) lle mae’n ymddangos fod y Gofalwr angen cefnogaeth o bosibl.
Bydd yr asesiad yn edrych ar:
-
Y graddau y mae’r Gofalwr yn gallu ac yn barod i ddarparu’r gofal ac i barhau i ddarparu’r gofal
-
Y deilliannau mae’r Gofalwr yn dymuno eu cyflawni
Mae Gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y broses hon
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn talu sylw at y ffaith a ydych yn dymuno gweithio / cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant, neu weithgareddau hamdden ai peidio. Mae’n bwysig fod Gofalwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn bartneriaid cyfartal yn eu perthynas gyda gweithwyr proffesiynol.
Gall awdurdod lleol gyfuno asesiad anghenion unigolyn gydag asesiad anghenion ei (G)ofalwr os yw’n ystyried y byddai’n fuddiol gwneud hynny. Fodd bynnag, dim ond os rhoddir caniatâd dilys y gall yr awdurdod lleol wneud hynny.
Mae eich gallu i gael mynediad at gefnogaeth yn dibynnu ar y canlynol
-
Mae’r angen yn bodoli oherwydd eich rôl gofalu
-
Ni ellir diwallu’r angen hwnnw eich hunan, gan eraill na gan wasanaethau lleol
-
Mae’n effeithio ar eich lles
Mae lles yn fwy na bod yn iach yn unig, gall hefyd gynnwys:
-
bod yn ddiogel
-
cael rhywle addas i fyw
-
cael eich cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd
-
cael ffrindiau
-
bod yn rhan o gymunedau cryfion, da
-
cael pob cyfle i wneud yn dda mewn addysg
-
teimlo’n dda am eich bywyd
-
i oedolion – gallu gweithio
-
i blant – gallu tyfu i fyny’n hapus ac yn llwyddiannus, wedi derbyn gofal da
Wedi’r asesiad, efallai y bydd gennych gynllun gofal neu gefnogaeth, sy’n disgrifio’r help y byddwch yn ei dderbyn fel Gofalwr.
I baratoi am asesiad, efallai y byddwch eisiau meddwl am:
-
Y math o gefnogaeth a help mae’r unigolyn y byddwch yn gofalu amdano/amdani ei angen
-
Yr hyn yr hoffech ei weld yn digwydd a’r hyn y byddech chi’n hoffi ei wneud
-
Y pethau rydych yn ei wneud ar eu rhan
-
Faint o amser ydych chi’n ei dreulio yn gofalu
-
A oes unrhyw un arall yn eich cefnogi chi ai peidio
Fe fyddant hefyd yn edrych a oes angen gwybodaeth neu hyfforddiant arnoch ai peidio, gan ystyried yr effaith mae gofalu wedi’i gael ar eich bywyd gwaith a hamdden, ynghyd â’ch iechyd a lles. Cyn yr asesiad, meddyliwch am y math o gefnogaeth fyddai’n eich helpu chi..
Gallwch ofyn am gynnal yr asesiad yn gyfrinachol, ar amser cyfleus, heb i’r unigolyn sy’n derbyn y gofal oddi wrthych fod yno. Gallwch gael rhywun arall yno i’ch cefnogi chi, megis Gweithiwr Allgymorth Credu, ffrind neu Ofalwr arall. Wedi hynny, fe fyddwn yn derbyn copi o’ch asesiad a chyngor ar y wybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau a allai eich helpu chi. Mae’r daflen ffeithiau hon oddi wrth Ofalwyr Cymru yn rhoi llawer mwy o wybodaeth am Asesiadau Gofalwyr, eich hawliau cyfreithiol a sut y gallwch baratoi.