01597 823800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Geiriau a Thermau
Beth mae Gwahanol Eiriau a Thermau yn ei Olygu
Dyma ychydig o eiriau cyffredin y gall pobl eu defnyddio wrth eich cefnogi chi yn eich rôl Gofalu.
Eiriolaeth: Y term a ddefnyddir i ddiffinio gweithred gan rywun sy’n cyflawni cefnogaeth ddi-dâl tymor hir i unigolyn sy’n agored i niwed, gan sicrhau fod diddordebau a safbwyntiau’r unigolyn sy’n agored i niwed yn cael eu clywed.
Gofal Cartref: Gofal o fewn neu’r tu allan i’ch cartref ar gyfer Oedolion, gan eu helpu pan fyddant angen cefnogaeth. Gall hyn fod yn ofal personol neu’n ofal ymarferol..
Taliadau Uniongyrchol: Mae’r rhain yn caniatáu i chi dderbyn taliadau arian parod oddi wrth eich awdurdod lleol fel y gallwch wneud y prynu yn hytrach na gwasanaethau gofal. Cyflwynwyd taliadau uniongyrchol i roi llawer mwy o hyblygrwydd a rheolaeth i bobl dros eu pecyn gofal ac i helpu pobl fyw yn fwy annibynnol.
Seibiant Preswyl: Dyma lle y gallwch archebu ystafell mewn cartref gofal preswyl ar gyfer eich yr unigolyn yn eich gofal. Gallai hyn eich galluogi chi, y Gofalwr, i fynd am wyliau neu i gymryd egwyl ac ymlacio. Gallai hyn fod mewn cartref gofal preswyl, neu mewn un o nifer o opsiynau eraill, megis tai â chymorth.
Gofal Amnewid: Os ydych yn mynd oddi cartref, gall yr awdurdod lleol dalu i weithwyr gofal i ddarparu gofal am gyfnod byr i gefnogi’r unigolyn y byddwch yn darparu gofal ar eu cyfer fel arfer.
Diogelu: Mae hyn yn gyfrifoldeb i bawb. Dyma derm a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ddynodi mesurau i amddiffyn iechyd, lles a hawliau dynol unigolion, sy’n caniatáu i bobl - yn enwedig plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed – i fyw yn rhydd o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod.