01597 823800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Cael egwyl / rôl gofalu y gellir ymdopi ag ef / seibiant
Gall bod yn ofalwr fod yn werth chweil ond gall fod yn heriol hefyd! Mae dod o hyd i ffyrdd o sicrhau y gallwch barhau i ymdopi gyda rôl gofalu a bod bywyd yn dda i’w ganfod ym mhob math o ffyrdd.
Mae nifer o ffyrdd gwahanol o sicrhau y gallwch barhau i ymdopi gyda rôl gofalu – mae rhai am ddim, bydd rhaid talu am ffyrdd eraill naill ai gennych chi neu wasanaethau cymdeithasol.
Mae sicrhau y gallwch barhau i ymdopi gyda rôl gofalu, cael egwyliau a seibiant yn gallu golygu gwahanol bethau i wahanol bobl; canfod yr hyn sy’n gweithio i chi yw’r hyn sy’n cyfrif. Mae croeso i chi ein ffonio ni dim ond i feddwl trwy eich opsiynau a meddwl yn uchel am y posibiliadau.
Dyma ychydig enghreifftiau yn unig; mae rhai gofalwyr yn defnyddio cyfuniad o’r holl ddulliau ac eraill ond yn defnyddio un dull:
-
Egwyl
-
Gostwng dwyster eich rôl gofalu
-
Cefnogaeth reolaidd sy’n ei galluogi i gael bywyd y tu hwnt i ofalu
-
Cyfleoedd i’r unigolyn sy’n derbyn gofal oddi wrthych, sydd yn ei dro yn rhoi egwyl i chi
-
Cael help yn y cartref i ddarparu ar gyfer dyletswyddau gofalu yn ystod y dydd neu’r nos, fel y gallwch naill ai adael y tŷ, cael noson lawn o gwsg, mynd i siopa, cwrdd â ffrindiau neu fynd am dro.
-
Cael rhywun i’ch helpu yn y cartref i ddarparu ar gyfer tasgau cyffredinol o amgylch y tŷ tra eich bod yn canolbwyntio ar ddyletswyddau gofalu.
-
Cael rhywun i gadw cwmni i’r unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani tra y byddwch yn mynd allan (gwasanaeth eistedd neu gyfeillio).
-
Caniatáu i’r unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani i fynychu gweithgareddau y tu allan i’r cartref
-
Caniatáu i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y cartref gyda neu heb yr unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani.
-
Eich galluogi chi i gymryd gwyliau, gyda neu heb yr unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani.
Os ydych eisiau rhoi cynnig ar ddull o gael egwyl ond eisiau canfod ffordd o wneud hyn, neu os ydych eisiau ychydig o nawdd, ffoniwch Credu ar 01597 823800 i drafod eich syniad. Os yw’n drefniant tymor hir sydd angen nawdd, fe fyddwch angen Asesiad Gofalwyr gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ond fe fyddwn yn gallu helpu gyda hynny hefyd.
Prosiect Seibiant Credu
Mae ein Prosiect Seibiant Creadigol wedi helpu rhai teuluoedd i feddwl am ffyrdd i sicrhau eu bod yn ymdopi gyda’u rôl Gofalu, i gael egwyl ystyrlon a bod eu rôl gofalu yn ymarferol.
Hyd yn oed yn ystod y Cyfnod Clo, roedd Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc wedi meddwl am ffyrdd a fyddai wirioneddol yn helpu yn eu barn hwy.
Weithiau gall fod yn rhywbeth gwirioneddol fach ac am amser byr – amser i fynd am dro, bath swigod, llyfr.
Weithiau gall ddod ar ffurf cysylltiadau gydag eraill, ffrindiau, teulu a Gofalwyr eraill.
Yn ystod cyfnodau covid, roedd y rhain wedi bod ar y ffôn neu ar dabled neu gyfrifiadur.
Weithiau roedd yn golygu diddanu’r unigolyn yn derbyn gofal neu unigolyn dibynnol am ychydig o amser.
Weithiau roedd yn golygu mwynhau gweithgaredd, efallai ar ben eu hunain yn unig neu ar y cyd gyda’u hanwyliaid.
Weithiau roedd yn ddarn o gyfarpar a all barhau am flynyddoedd.
Weithiau mae’n golygu dysgu rhywbeth newydd.
Weithiau mae’n golygu cael rhywun i helpu gyda thasgau i ysgafnhau’r baich.
Weithiau mae’n ofal a/neu gefnogaeth gan rywun arall fel y gallwch chi wneud rhywbeth arall.
Weithiau mae’n golygu trefnu egwyl neu wyliau, gyda’ch gilydd neu ar wahân, sy’n rhywbeth i edrych ymlaen ato.
Bob tro mae’n rhywbeth sy’n gweithio i chi
Byddwch yn ddychmygus – mae’n golygu gwneud gwahaniaeth i chi a’ch teulu i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu. Rydym eisiau gwneud y mwyaf o’r amser sy’n weddill a’r cronfeydd sydd gael i wneud gwahaniaeth!
Os ydych angen ychydig o help i gael y gefnogaeth, dyna lle mae’r Prosiect Seibiant, a ariennir gan Grŵp Llywio Gofalwyr Partneriaeth Rhanbarthol Powys, yn camu i’r adwy, gan ariannu Credu i helpu naill ai gyda’r wybodaeth, cysylltiadau neu ychydig o arian o’r Gronfa Seibiant.
Mae’r gefnogaeth hon ar gael i Ofalwyr o bob oed, Gofalwyr Ifanc, Oedolion sy’n Gofalu a Rhieni sy’n Gofalu led led Powys, i deuluoedd unigol, grwpiau a chreu gwasanaethau peilot i Ofalwyr.
Dywedwch wrthym ni sut y gall Credu helpu gyda Seibiant i chi a’ch teulu am weddill y prosiect, sydd i ddod i ben ym mis Mawrth 2023.
Felly meddyliwch dros hyn neu roi galwad i ni os nad ydych yn siŵr lle i ddechrau 01597 823800 neu anfonwch e-bost at carers@credu.cymru
Gwybodaeth Bellach
Mae gwybodaeth ar y pynciau canlynol ar Wefan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr:
-
Help gyda thasgau yn y cartref megis garddio a glanhau
-
Gwyliau
-
Talu am seibiant
-
Gwasanaeth eistedd a chyfeillachu
-
Deall terminoleg gofal cymdeithasol
-
Cartrefi gofal
-
Help cyflogedig yn y cartref, gan gynnwys dolenni ar sut i gyflogi cynorthwyydd personol.
Mae Taflen Ffeithiau gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU o’r enw “Cael Egwyl”, sy’n cynnwys canllawiau ac awgrymiadau i gymryd egwyl.
Cefnogaeth oddi wrth Wasanaethau Cymdeithasol Powys
Mae Polisi Seibiant Cyngor Sir Powys yma:
Taliadau Uniongyrchol – gwneir taliad i chi neu’r unigolyn sy’n derbyn gofal fel y gallwch brynu gofal, naill ai yn y cartref, neu rywle arall.
Seibiant Preswyl – ystafell mewn cartref gofal preswyl i rywun sy’n derbyn gofal am gyfnod byr o amser. Gallai hyn fod yn gartref gofal preswyl, neu’n un o nifer o opsiynau niferus eraill, megis tai â chymorth. Mae’r math yma o seibiant ar gael fel arfer am gyfnod o hyd at bythefnos, chwe gwaith y flwyddyn.
Gofal Amnewid – caiff gweithwyr gofal eu talu i ddarparu gofal am gyfnod byr i gefnogi’r unigolyn y maent yn darparu gofal ar eu cyfer fel arfer. Mae hyn am hyd at bythefnos fel arfer.
Cyfnodau Byrrach o Seibiant – cyfnodau byr o gefnogaeth o ychydig oriau pob wythnos hyd at ychydig ddyddiau’n achlysurol trwy ‘wasanaeth eistedd’ lle y bydd gweithiwr gofal cyflogedig yn aros gyda’r unigolyn am ychydig oriau ar sail reolaidd, fel y gallwch fynd ati i wneud eich busnes rheolaidd.
‘Bywydau a Rennir’ – gwasanaeth lle mae’r unigolyn yn gallu aros gyda gweithwyr gofal cyflogedig am gyfnod byr o amser.
Egwyliau Byrion i Blant – darpariaeth egwyl byr i blant ym Mhowys.
Bydd faint o ofal seibiant a gynigir i unigolyn yn dibynnu ar eu hanghenion ac amgylchiadau unigol hwy neu’r gofalwyr sydd wedi’u hasesu. Bydd cyfanswm y seibiant a gynigir yn cael ei ysgrifennu mewn cynllun ffurfiol. Nod y cynllun hwn yw sicrhau y gall unigolion a’u gofalwyr barhau gyda’u rôl gofalu a chefnogi eu lles. Dylid adolygu’r cynllun yn flynyddol neu os oes newid yn eich amgylchiadau. Bydd gwahanol fathau o seibiant ar gael am wahanol gyfnodau o amser, ond mae seibiant preswyl ar gael fel arfer am hyd at bythefnos a hyd at chwe gwaith y flwyddyn.
Mae taflen yn esbonio Polisi Codi Tâl Cyngor Sir Powys ar gyfer Gofal Cartref a Gwasanaethau Cymdeithasol eraill heb fod yn breswyl yma:
Hafal Crossroads (Powys)
Yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref yng nghartrefi unigolion eu hunain, ynghyd â gwasanaethau seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl ym Mhowys.
Gweithwyr Gofal a Ariennir yn Breifat ar gyfer Oedolion
Trefnir hyn yn annibynnol o wasanaethau cymdeithasol. Gellir ei drefnu’n aml yn gyflym iawn a gallwch drefnu’r hyn sydd ei angen arnoch yn union. Gellir ei gynyddu neu ei ostwng gan ddibynnu ar anghenion ac argaeledd y gweithiwr gofal. Bydd nyrsys ardal, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol, sefydliadau’r trydydd sector, a phobl yn eich cymuned yn gwybod pa weithwyr gofal annibynnol neu asiantaethau lleol a all gyflwyno’r gwasanaeth hwn.
Bydd yr unigolyn neu eu teulu a ffrindiau yn gwneud y trefniadau; cofiwch ofyn faint o bobl maen nhw’n eu cefnogi (os yw’n fwy na phedwar, yna rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) ac os ydynt yn hunangyflogedig, gofynnwch am eirdaon, archwiliad DBS a’u profiad.
Mae nifer o weithwyr gofal annibynnol yn adnabyddus yn y gymuned leol. Fel canllaw, y gost yw £11 - £15 yr awr a byddai gwasanaeth “cysgu i mewn” (lle mae’r Gofalwr yn cysgu yn eich tŷ dros nos ac ar gael os oes angen) fel arfer yn costio £75 y nos. Pan fyddwch yn siarad gyda’r gweithiwr gofal, dylech ddweud wrthynt yr amseroedd delfrydol yr hoffech iddynt ymweld a’r hyn sydd ei angen arnoch (cofiwch nad yw rhai yn darparu gofal personol – mae hyn yn golygu help gyda bwyta, defnyddio’r toiled, cael cawod a bath a gwisgo a dadwisgo).