top of page
credumet130.jpg

Mae Credu yma i’ch cefnogi a gwrando arnoch gyda’r materion sy’n cyfrif fwyaf i chi; rydym yma i gyflwyno cefnogaeth i chi gan eich bod yn cyfrif hefyd. Mae ein cefnogaeth yn gwbl hyblyg i weddu i’r hyn sydd ei angen arnoch a’r hyn sy’n gweithio orau i chi:

Mae’r pethau mae gofalwyr yn eu trafod gyda gweithwyr allanol yn eang ac yn amrywiol ond yn cynnwys:

  • Jyglo gofalu gyda’r ysgol neu waith

  • Dadlwytho effaith emosiynol gofalu trwy wrando a chefnogaeth neu gwnsela cyfrinachol

  • Atebion ymarferol i heriau bob dydd

  • Gofalu am eich hunan

  • Cael bywyd y tu hwnt i ofalu a chynnig cyfleoedd i gwrdd a chysylltu gyda phobl eraill sydd â chyfrifoldebau gofalu

  • Dealltwriaeth o anghenion yr unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani

  • Gwybodaeth ac adnoddau o ran arian a budd-daliadau ynghyd â chael cefnogaeth a chael mynediad at wasanaethau

  • Cynnal grwpiau cyfeillgar a chroesawus i ofalwyr ifanc ac oedolion sy’n gofalu

  • Cydlynu gweithgareddau a theithiau i ofalwyr ifanc, oedolion sy’n gofalu a’r teulu cyfan hefyd!

  • Cyfleoedd hyfforddi

  • Cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith

Bydd Credu yn cefnogi unrhyw Ofalwr o unrhyw oedran ar draws Powys. Mae’n bwysig eich bod yn cael eich cefnogi i wneud yr hyn sy’n cyfrif fwyaf i chi, gan gynnwys parhau i fod yn ofalwr. Does dim rhaid i chi weld neu feddwl am eich hunan fel gofalwr neu efallai eich bod yn falch i fod yn ofalwr ifanc / oedolyn sy’n gofalu.

 

Mae sefyllfa pawb yn wahanol ac mae hynny’n iawn!

Mach4.jpg

Eich Lles

Mae eich lles yn bwysig! Ond fel gofalwr gallwch fod mor brysur yn gofalu am yr unigolyn yn eich gofal fel eich bod yn aml yn anghofio am eich iechyd a’ch lles.

Yn Credu, fe allwn gynnal asesiad lles.

Nid Asesiad Gofalwr (a gynhelir gan Wasanaethau Cymdeithasol) yw hwn ond sgwrs anffurfiol lle y byddwn yn ystyried eich iechyd a’ch lles fel Gofalwr gan edrych ar bethau megis:

 

  • Cysgu a chael digon o orffwys.

  • Bwyta’n iach.

  • Gofalu am eich cefn.

  • Delio gyda straen.

  • Y pigiad ffliw.

carers going for a walk illustration

Y rheswm dros hyn yw fel y gallwn gynnig y gefnogaeth a’r wybodaeth gywir sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion personol unigol. Dewch i gysylltiad i drefnu asesiad lles. Gallwch gael hyn fwy nag unwaith ac rydym yn eich annog i siarad gyda ni pryd bynnag y bu newid yn eich rôl gofalu.

 

Mae’r Asesiad Gofalwyr a gynigir gan Wasanaethau Cymdeithasol ar gyfer unrhyw ofalwr (neu rywun sy’n bwriadu gofalu am rywun) lle mae’n ymddangos fod gan y gofalwr angen am gefnogaeth. Am ragor o wybodaeth a lle i gael cyngor pellach, cliciwch yma …dolen i dudalen Lefel 3

 

Mae gwasanaeth cwnsela am ddim gan Credu neu gallwch siarad gyda’ch Meddyg Teulu fel arall.

Gwybodaeth Bellach

Mae gwybodaeth ar y wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr am “Gofalu am eich hunan” 

Mae tudalen ymarferion anadlu ar gyfer straen ar wefan y GIG.

Mae gwefan Mind yn cynnwys gwybodaeth am gefnogi eich hunan tra’n gofalu am rywun

Your Wellbeing

Eich Hawliau fel Gofalwr

Mae gennych hawliau fel gofalwyr ifanc/oedolion sy’n gofalu os ydych yn cyflwyno cefnogaeth neu ofal di-dâl i aelod o’r teulu, partner, plentyn, neu ffrind oherwydd eu hoedran, anabledd, salwch corfforol neu feddyliol, camddefnyddio sylweddau neu ffurf arall o gaethiwed ac na allant ymdopi heb eich cefnogaeth. Gall unrhyw un fod yn ofalwr. Dim bwys beth yw eu hoedran, rhyw neu gefndir. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu eich bod yn cael eich diogelu rhag wrthwahaniaethu yn y gweithle oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sy’n hen neu rywun sydd ag anabledd. Ers 2016 yng Nghymru, mae gennych yr un hawliau â phobl sy’n derbyn gofal.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar:

Wefan Llywodraeth Cymru elsh Government

Gwefan Luke Clements’ ar hawliau pobl sy’n profi allgáu cymdeithasol, gan gynnwys pobl anabl a’u gofalwyr.

Carers on zoom illustration
Your Rights as a carer

Canllaw i Ofalwyr Di-dâl

Guide to accessing support

Asesiad Gofalwyr

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig asesiad i unrhyw Ofalwr (neu rywun sy’n cynllunio i ofalu am rywun) lle mae’n ymddangos fod gan y Gofalwr angen am gefnogaeth.

Am ragor o wybodaeth a lle i gael cyngor pellach:

Carers Assessment

Cael Egwyl / Seibiant

Gelwir cael egwyl o’ch rôl a dyletswyddau gofal arferol yn seibiant yn aml. Mae seibiant yn golygu egwyl o ofalu ar eich cyfer chi a’r unigolyn yr ydych yn gofalu amdano/amdani. Mae gwahanol ffyrdd o gael seibiant – nid oes tâl ar rai seibiannau, ond mae angen talu am ffyrdd eraill o gael seibiant naill ai gennych chi neu wasanaethau cymdeithasol.

Dysgwch fwy am yr opsiynau yma.

credu166.jpg
Getting a Break

Help Ariannol a Chyfreithiol

Mae nifer o agweddau ariannol a chyfreithiol i’ch rôl gofalu. Mae Credu yn gweithio gyda Gofalwyr ac yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol.

Financial and legal help

Gwaith a Gyrfaoedd

Pan fyddwch yn derbyn rôl gofalu, neu os yw eich cyfrifoldebau gofalu yn newid, efallai y bydd angen i chi archwilio opsiynau a gwneud penderfyniadau ynghylch eich gwaith a chyflogaeth – er enghraifft, a ddylech roi gorau i’ch gwaith neu barhau. Oeddech chi’n gwybod fod llawer o gyflogwyr yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr yn y gwaith ac y gallech hefyd ofyn am weithio hyblyg?

Mae gan wefan Carers UK fanylion:

  • Eich hawliau yn y gwaith.

  • Cefnogaeth yn y gwaith.

  • Meddwl am adael gwaith?

  • Meddwl am ddychwelyd i’r gwaith?

  • Hybu eich sgiliau

carer doing everyday chores illustration
Work and Careers

Gofalwyr Ifanc

Os wyt ti’n unigolyn ifanc sy’n gofalu am rywun, neu os oes gennych blentyn sy’n gofalu amdanoch chi neu rywun arall yn eich teulu, efallai y byddwch eisiau cael mynediad at gefnogaeth.

Tra bo cael rôl fel gofalwr yn gallu bod yn werth chweil yn aml, gall gael effaith hefyd ar fywyd cymdeithasol, iechyd ac addysg eich plentyn a chithau hefyd.

Mae Credu yn cefnogi Gofalwyr Ifanc ar draws Powys. Ffôn: 01597 823800. Bydd Gweithwyr Allgymorth Credu yn gwrando ar Ofalwyr Ifanc a’u teuluoedd ac yn gweithio gyda thi ar yr hyn sy’n bwysig i ti.

Young Carers
Image by freestocks

Help Ymarferol gyda Gofalu

Mae nifer fawr o bethau ymarferol i’w hystyried wrth ofalu am rywun boed os yw hyn yn faterion o ddydd i ddydd megis rheoli meddyginiaethau neu faterion megis symud o’r ysbyty i gartref. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac awgrymiadau yma.

Practical help with caring

Gofalu am rywun gyda chyflwr

Carer caring illustration

Mae’r wybodaeth, cyngor a chefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn aml yn dibynnu ar y math o gyflwr, salwch neu anabledd sydd gan yr unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani.

Mae nifer o sefydliadau Powys, rhanbarthol a chenedlaethol a all eich helpu.

Caring for someone with a condition

Pan mae Gofalu yn newid neu’n dod i ben

Bydd eich rôl gofalu yn newid neu’n dod i ben dros amser. Efallai y bydd yr unigolyn sy’n derbyn gofal oddi wrthych wedi gwella ac nad oes angen gofal arnynt bellach, efallai na ellir gofalu amdanynt yn y cartref neu efallai eu bod wedi marw..

Dyma ychydig o anoddau i helpu.

When caring changes or ends

Delio gyda Biwrocratiaeth

Yn eich rôl gofalu, efallai y byddwch yn dod ar draws ambell air neu derm sy’n anghyfarwydd i chi. Dyma rai o’r termau mwyaf cyffredin a ddefnyddir. Os nad ydych yn deall unrhyw beth, dewch i gysylltiad gyda Credu.

Os byddwch yn Profi Anawsterau

Mae canllaw gwych i oresgyn problemau cyffredin a wynebir gan bobl anabl a Gofalwyr wedi’i gyhoeddi gan Cerebra

Mae’r Canllaw hefyd yn cynnwys ychydig o dempledi defnyddiol ar gyfer llythyrau y byddwch o bosibl angen eu hysgrifennu.

 

Cefnogaeth Eiriolaeth

Weithiau mae pobl yn cael trafferth dweud yr hyn sy’n wirioneddol cyfrif iddynt wrth ysgrifennu ac wrth siarad am eu hunain a’u sefyllfaoedd. Os hoffech i rywun arall eich cefnogi chi gyda hyn a chydweithio gyda chi, yna gallwch ffonio DEWIS CIL. Dim ond ar gyfer pobl sydd mewn cysylltiad gyda Gwasanaethau Cymdeithasol y mae’r gwasanaeth hwn ar gael. Sefydliad eiriolaeth ydynt sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynrychioli chi fel Gofalwr. Eu manylion cyswllt yw:

Ffôn:​ 01597 821333        Gwefan: Dewiscil

Ffynonellau Cefnogaeth Cyffredinol

Bydd Credu yn cefnogi unrhyw Ofalwr o unrhyw oedran led led Powys.

Mae sefydliadau eraill y byddwch o bosibl eisiau siarad gyda hwy am eich sefyllfa. Dyma rai:

Cysylltwyr Cymunedol

Mae yna 12 o Gysylltwyr Cymunedol led led Powys. Mae Cysylltwyr yn helpu pobl (18+ mlwydd oed) a’u teuluoedd neu Ofalwyr i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau ar lefel gymunedol i’w helpu i gynnal bywydau annibynnol.

Gwasanaethau Cymdeithasol Powys

Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys.

CYMORTH

Gall oedolion ym Mhowys gysylltu â’r cyngor trwy CYMORTH.

Mae’r tîm CYMORTH yn darparu gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth eang o gefnogaeth i bobl ym Mhowys sy’n 18 mlwydd oed neu hŷn. 

Ffôn: 0345 6027050

Cysylltiadau Gwasanaethau Cymdeithasol Eraill

Gwasanaethau Oedolion

Gwasanaethau Plant

Dealing with Bureucracy
General Sources of Support
bottom of page