top of page

Pan mae Gofalu yn newid neu’n dod i ben

Yellow Flowers

Bydd eich rôl gofalu yn newid neu’n dod i ben dros amser. Gall newid fod yn anodd i bawb ac rydym yma i’ch helpu chi llywio eich ffordd at yr hyn fydd yn digwydd nesaf.

 

  • Efallai y bydd yr unigolyn rydych yn gofalu amdanynt wedi gwella a ddim angen gofal bellach

  • Efallai y bydd yr unigolyn rydych yn gofalu amdanynt angen mynd i’r ysbyty.

  • Efallai y bydd rhywun nad oeddem yn disgwyl fyddai angen gofal wedi angen symud o’r ysbyty i gartref.

  • Efallai y bydd yr unigolyn rydych yn gofalu amdanynt ddim angen gofal bellach yn y cartref neu wedi marw.

Gallwn fynd i’r ysbyty mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol. Weithiau mae’r sefyllfaoedd hyn wedi’u cynllunio, weithiau mae’n argyfwng. Wrth adael ysbyty, efallai y bydd cynllun gofal yn cael ei gyflwyno i chi os ydych chi neu’r unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani angen cefnogaeth barhaus. Weithiau pan fyddwch yn gadael yr ysbyty, efallai y bydd Tîm Ail-alluogi’r cyngor yn cysylltu â chi. Bydd y Tîm Ail-alluogi yn cynnwys Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, a gweithwyr cefnogi sydd wedi’u hyfforddi.

Unwaith y byddwch wedi’ch atgyfeirio, byddant yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad er mwyn i rywun o’r tîm ymweld â chi a gwneud asesiad. Gall yr asesiad gynnwys aelod o’r teulu os ydych yn dymuno, ac fe fydd yn dynodi beth ydych chi (a’r unigolyn sy’n derbyn gofal oddi wrthych) eisiau gallu ei wneud a sut y gall y tîm eich helpu. Fe fyddant yn gweithio gyda chi fel arfer rhwng dwy a chwe wythnos. Cyn iddynt orffen, fe fyddant yn cynllunio unrhyw help pellach sydd ei angen ac yn sicrhau ei fod yn cael ei sefydlu.

Weithiau fe fydd unigolyn yr ydych yn gofalu amdano yn dymuno neu angen ystyried symud i gartref gofal. Dyma benderfyniad anodd iawn am resymau emosiynol ac ymarferol. Efallai y bydd opsiynau llety eraill weithiau i’w hystyried megis llety cysylltu bywydau neu lety gwarchod. Os yw hyn hefyd yn swnio’n rhy anodd, ystyriwch a ellir diwallu eich anghenion mewn ffordd arall, er enghraifft: a ellid addasu eich cartref neu a allech gael pecyn gofal a chefnogaeth dyddiol? Gallwch sgwrsio am hyn naill ai gyda Credu neu Age Cymru. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol gan Age Cymru ar: Sometimes the person you care for may wish or need to consider a move to a care home.

I ganfod cartref gofal ym Mhowys, gallwch chwilio ar:

 

Help gyda Chanfod Cartref Gofal

Mae’n bwysig eich bod yn gallu dewis cartref gofal sy’n diwallu anghenion yr unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani. Mae ganddynt hawl i asesiad er mwyn canfod beth yw eu hanghenion yn union ac a yw eu gofal yn mynd i gael ei ariannu gan y wladwriaeth neu a fydd taliad preifat ar ei gyfer.

Hyd yn oed os byddwch yn talu’n breifat, mae’n ddefnyddiol cael asesiad o’ch anghenion os oes cyfle y byddwch o bosibl angen gofyn am nawdd oddi wrth y cyngor yn y dyfodol.

 

I ofyn am asesiad, gwirio cymhwyster a thrafod costau, cysylltwch â  CHYMORTH ar 0345 602 7050

 

Mae taflen ffeithiau Age Cymru sef ‘Canfod llety gofal yng Nghymru’, yn adnodd manwl sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

  • Gwneud penderfyniad am fynd i gartref.

  • Ystod o gwestiynau i’w gofyn a materion i’w hystyried wrth ddewis cartref.

  • Ystyriaethau ariannol wrth ddewis cartref gofal.

  • Problemau a chwynion.

 

Mae Age Cymru yn cynhyrchu nifer o daflenni ffeithiau eraill ar gartrefi gofal a all fod yn ddefnyddiol i edrych arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys:

​

​

 

​

Mae gwefan Gofalwyr y DU

gyda llawer o wybodaeth hefyd am:

  • Ofal preswyl

  • Cynllunio diwedd bywyd

  • Profedigaeth

  • Bywyd wedi gofalu

 

 

Mae sefydliadau eraill y byddwch o bosibl eisiau siarad gyda hwy am eich sefyllfa.

Dyma rai:

​

Cysylltwyr Cymunedol

Mae 12 o Gysylltwyr Cymunedol ar draws Powys. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn helpu pobl (18+ oed) a’u teuluoedd neu Ofalwyr i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau ar lefel y gymuned i’w helpu i gynnal bywydau annibynnol.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol Powys

Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys.

​

CYMORTH 

Gall oedolion ym Mhowys gysylltu â’r cyngor trwy CYMORTH.

Mae’r tîm CYMORTH yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o gefnogaeth i bobl ym Mhowys sy’n 18 mlwydd oed neu hÅ·n. 

Ffôn: 0345 6027050

 

Cysylltiadau Gwasanaethau Cymdeithasol Eraill

Gwasanaethau Oedolion

Gwasanaethau Plant

bottom of page