top of page

Cael Dweud eich Dweud

credumet122.jpg

Gall cael dweud eich dweud fod yn bwysig i chi am bob math o resymau. Mae pob math o ffyrdd gwahanol o gael dweud eich dweud ar faterion fel rhywun sy’n gofalu am unigolyn sy’n sâl neu’n anabl.

Carers on the phone illustration

1. Fel gofal unigol, mae gennych hawl i gael eich cynnwys wrth gynllunio trefniadau sy’n effeithio ar eich rôl gofalu neu ar gefnogaeth i chi. Os ydych eisiau cefnogaeth gyda hyn, yna fe fyddai’n rhoi pleser mawr i Credu eich helpu, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ffonio neu anfon e-bost. Os ydych eisiau eiriolaeth broffesiynol, ffurfiol gydag iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, yna Dewis yw’r gwasanaeth eiriolaeth a gomisiynir yn lleol:  Eiriolaeth - Powys | CANOLFAN DEWIS AR GYFER BYW’N ANNIBYNNOL (dewiscil.org.uk) Fel arall, efallai y byddwch eisiau rhannu eich safbwyntiau ar faterion s’n bwysig i chi. Mae’n bosibl y byddwch eisiau ysgrifennu at eich cyngor/ bwrdd iechyd neu gynrychiolwyr gwleidyddol lleol. Efallai eich bod yn hyderus iawn o ran hyn, ond os hoffech siarad gyda rhywun yn ei gylch, mae croeso i chi ein ffonio. Ymhellach at hyn, gallwch ofyn i ni gael ein cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriadau sydd ar y gweill.

Carers around the world illustration

2. Fel rhan o gymuned, boed os yw hynny ar-lein neu mewn lle cymunedol, efallai eich bod yn teimlo’n angerddol am newid at ei gilydd, neu’ch bod eisiau cyfrannu tuag at ymgynghoriadau ar y cyd. Gallwch fwydo i mewn yn sicr i Fforwm Gofalwyr Powys – rydym yn awyddus bob tro i glywed oddi wrth Ofalwyr o bob cwr o Bowys.

3. Gall unrhyw un ymuno yn y Fforwm Oedolion sy’n Gofalu. Mae’r rhain yn cwrdd yn rheolaidd, yn gyfeillgar ac wrth eu boddau yn cynnwys pobl o bob cwr o Bowys. Ar hyn o bryd, mae’r fforwm oedolion sy’n gofalu yn canolbwyntio ar:

  • godi ymwybyddiaeth o Ofalwyr a sicrhau fod gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi a bod cydweithrediad â hwy o fewn cymunedau, ynghyd ag iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol

  • cefnogaeth er mwyn gallu ymdrin yn haws â rôl ofalu

  • mwy o hygyrchedd i anwyliaid sydd ag anableddau

Efallai y byddwch o bosibl yn teimlo’n angerddol am y materion hyn neu eich bod eisiau tynnu sylw at feysydd eraill. Pa bynnag sydd o bwys i chi, fe fydd croeso mawr i chi wneud hynny.

 

4. Mae cynrychiolwyr Gofalwyr Ifanc / Oedolion Ifanc sy’n Gofalu ar amrywiaeth o fyrddau strategol gwahanol ym Mhowys ac yng Nghymru; mae rhai o’r rhain yn cynnwys: y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (y prif fwrdd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol), Bwrdd Ymddiriedolwyr Credu a chyfarfodydd cenedlaethol gydag Aelodau’r Senedd ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru / Ymddiriedolaeth Gofalwyr y DU. Mae cyfleoedd hefyd gan Ofalwyr Cymru a Carers UK.

 

Beth bynnag fo eich diddordeb, dewch i gysylltiad ac fe fyddwn ni’n gwneud y cyflwyniadau. Os hoffech gael hyfforddiant hefyd i ymgyrchu, bod yn gynrychiolydd neu gael llais mewn ffyrdd gwahanol, fe fyddem wrth ein boddau’n clywed oddi wrthych.

Powys illustration
bottom of page