top of page
Untitled design-9.png

Myfyrdodau mewn Amser

Reflections Logo
Image by Maria Lupan

Imi mae hanes yn hynod ddiddorol. Mae’r byd cyfan yn llawn biliynau a biliynau o straeon gwahanol, sy’n gweu i’w gilydd er mwyn creu tapestri cymhleth seicedelig dan enw ‘hanes’. Mae’r tapestri mor fawr, mae’n amhosib gweld bob edefyn unigol sy’n ei greu. Mae llu o straeon yn pylu, ac mae eraill yn diflannu’n gyfan gwbl, caiff straeon eraill eu hail-liwio ac nid yw’n bosib eu hadnabod bellach. Gyda’r prosiect hwn, fy nod yw darganfod edeifion a gafodd eu hesgeuluso neu eu cam-drin, a thynnu sylw at eu stori nhw eto. Yn rhy aml, mae straeon am anabledd, niwroamrywieth, salwch cronig a salwch meddwl yn cael eu rhwygo allan o hanes, er mwyn creu llun llawer mwy dymunol o’r “hen ddyddiau da”. Byddai’n well gan rai cofio ffigurau hanesyddol fel duwiau neu angenfilod, gan wrthod gweld ein cyndeidiau fel yr oeddynt, sef: pobl.

 

Enw’r prosiect hwn yw Myfyrdodau mewn Amser, oherwydd rwyf am roi’r pwyslais ar ddynoliaeth; rwyf yn awyddus i bobl gweld cynrychiolaethau o’u hunain yn ein hanes. Weithiau nid yw’r cyrff yn berffaith, weithiau nid yw’r ymennydd yn gweithio fel y byddem yn dymuno, weithiau nid ydym yn gweddu i’r bobl o’n cwmpas – ac mae hynny oll yn iawn! Roedd rhai o’r ffigurau hanesyddol mwyaf enwog yn cael trafferthion gydag agweddau corfforol, meddyliol a chymdeithasol; Abraham

Lincoln, Marilyn Monroe, Charles Darwin, Mozart, Lady Gaga, Michelangelo, Frida Khalo. Nid oes rhaid ichi fod yn gadarn o gorff ac yn niwro-nodweddiadol i fyw bywyd gwych a dilyn eich breuddwydion – gallwch gyflawni hyn oll, a hyn yn oed creu hanes! Nid hanesydd proffesiynol ydw i. Unigolyn ydw sydd am i bobl eraill deimlo’n llai unig. Wrth edrych yn ôl ar hanes, rwyf yn teimlo’n fwy cadarn ac yn fwy sicr am fy hunan. Gobeithio y gwnaiff yr un peth ichi hefyd.

Fersiwn Clywedol a Chyfieithiad BSL ar gael yn fuan

Deafness

Byddardod

Y Dywysoges Alice (1885—1969)

Princess Alice

Fe’i ganwyd yng Nghastell Windsor, yn fyddar, a phriododd Tywysog Andrew o Wlad Roeg a Denmarc.

Er ei bod yn araf wrth ddechrau siarad, daeth yn rhugl yn Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg a Groeg.

Yn ystod Rhyfeloedd y Balcan, bu’n gweithio fel nyrs, ac enillodd y Groes Goch Frenhinol ym 1913. 

 

Ar ôl gorfod ffoi i wlad Roeg, dioddefodd y Dywysoges Alice o waeledd nerfol, ac aethpwyd â hi i sanatoriwm. Ceisiodd adael nifer o weithiau, ond caniatawyd iddi adael dwy flynedd yn ddiweddarach.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu’n gweithio i’r Groes Goch yn ninas Athens, yn trefnu ceginau cawl, llochesi i blant amddifad,  a chylch nyrsio.

Ym 1943 cuddiodd fam Iddewig a’i dau blentyn rhag y Natsïaid, oedd eisoes wedi lladd y rhan fwyaf o Iddewon Athens. 

Er i herwfilwyr osod cyrffyw yn y ddinas, ym 1944, mynnodd y dywysoges ryddid i ddosbarthu dognau i blismyn a phlant. Pan ofynnwyd iddi a oedd hi’n ofni cael ei saethu, atebodd "maen debyg nad ydych yn clywed yr ergyd sy’n eich lladd, ac rwyf yn fyddar p’run bynnag.  Felly pam poeni am rywbeth felly?".

Ym 1949 sefydlodd urdd lleianod oedd yn nyrsio.  Hyfforddodd ar ynys Tinos ac aeth i’r UDA ddwywaith i godi arian ar gyfer y cynllun. 

Erbyn iddi farw, nid oedd yn berchen ar unrhyw eiddo, oherwydd iddi roi popeth i ffwrdd i bobl lai ffodus na hi. 

Ar ôl ei marwolaeth, dyfarnodd Llywodraeth Prydain wobr Arwr yr Holocost i’r Dywysoges Alice.

Princess Alice 2
Bruce Willis

Byddardod

Hannah Gadsby

Awtistiaeth

George Clooney

Poen Cronig

Ludwig van Beethoven

Ludwig Van Beethoven (1770—1827)

Cychwynnodd ei wersi cerdd pan roedd yn 5 mlwydd oed, a rhoddodd ei berfformiad cyhoeddus cyntaf yn 7 oed.

Ym 1798, yn 28 oed, dechreuodd Beethoven colli ei glyw. Ni wyddys yn union beth oedd achos ei fyddardod, ond cwynodd wrth ei ffrindiau, ei fod yn dioddef o lawer o ganu yn ei glustiau.

Wrth i’w glyw waethygu’n raddol, cyfansoddodd 4 sonata, 5 triawd piano, 9 symffoni, 11 pedwarawd llinynnol, 13 concerto, 12 sonata i’r piano, 15 agorawd, 18 darn byr i’r piano, 54 o ganeuon, 56 jôc gerddorol, 171 o ganeuon gwerin a mwy.

Erbyn iddo gyrraedd 44 oed, ym 1815, roedd Beethoven yn fwy neu lai cwbl fyddar. Er gwaethaf hyn, cyfansoddodd mwy na 150 darn cerddorol.

Roedd yn cyfathrebu gyda ffrindiau trwy ysgrifennu mewn llyfryn bach, a chyfansoddodd ei gerddoriaeth trwy deimlo dirgryniadau ei biano. 

Erbyn heddiw, ei weithiau ef yw rhai o’r darnau cerddoriaeth glasurol mwyaf poblogaidd. Beethoven yw un o’r cyfansoddwyr mwyaf clodwiw byd y Gorllewin drwy hanes. 

Annie Jump Cannon (1863—1941)

Y prif reswm iddi golli ei chlyw yn ystod ei phlentyndod ac fel oedolyn ifanc, oedd y dwymyn goch. 

Astudiodd seryddiaeth a ffiseg yn y coleg, ac ar yr un pryd roedd yn dysgu ffiseg i’r dosbarthiadau iau, ac enillodd radd Meistr o ganlyniad. 

Ym 1896 daeth yn aelod o Harvard Computers, grwp o fenywod a gyflogwyd i fapio a diffinio pob seren yn yr wybren. Yn fuan iawn, daeth yn enwog fel yr unigolyn cyflymaf i ddosbarthu sêr. 

Yn ystod ei bywyd, llwyddodd Cannon i ddosbarthu 350,000 o sêr, mwy nag unrhyw un arall.  Yn 50 oed, roedd yn gallu dosbarthu tair seren y funud, trwy edrych arnynt yn unig. 

Ym 1925 hi oedd y ddynes gyntaf erioed i dderbyn doethuriaeth wyddonol anrhydeddus o Brifysgol Rhydychen.

Annie Jump.jpg

Thomas Edison (1847—1931)

Thomas Edison 2

Datblygodd broblemau gyda’i glyw yn 12 oed, a daeth yn gwbl fyddar mewn un clust, ac yn drwm iawn ei glyw yn y llall. 

Roedd gan Edison broblemau gyda’i leferydd, a’r label a ddynodwyd iddo gan ei athrawon oedd “twp”. Roedd yn cael trafferth canolbwyntio yn yr ysgol, a byddai’n chwarae mig yn rheolaidd. Erbyn hyn ym marn haneswyr roedd ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, yn ogystal â bod yn fyddar.

Yn 13 oed, roedd yn ennill elw o $50 yr wythnos o werthu cynnyrch ar drenau.  Roedd yr arian yn mynd tuag at ei arbrofion trydanol niferus. 

Yn 22 oed, enillodd ei batent cyntaf, a sefydlodd cwmni trydan gyda’i ffrind Franklin Pope.

Yn 27 oed, cafodd ei lwyddiant pwysig cyntaf, pan werthodd ei system delegraffig amlneges am $10,000 (gwerth $226,000 heddiw).

Sefydlodd Edison ei labordy cyntaf ym 1876, sef Menlo Park, lle ddyfeisiwyd dros 400 o ddyfeisiadau. 

Edison oedd yn gyfrifol am ddyfeisio’r ffôn, bylbiau golau oedd yn para’n hirach, telegraff awtomatig, y ffonograff, a’r batri alcalin (ar gyfer lampau, trenau a llongau tanfor). Llwyddodd hefyd i sefydlu stiwdio ffilm a chanolfan botaneg! 

Mae gan Edison gyfanswm o 2,332 patent yn gysylltiedig â’i enw. 

Thomas Edison

Millie Bobby Brown (2004 - current) 

Millie Bobby Brown

Fe’i ganwyd yn rhannol fyddar mewn un clust, a gwaethygodd dros gyfnod nes ei bod yn hollol fyddar. 

Dechreuodd actio yn 2013, a chafodd ei phrif rôl gyntaf yn 2014. 

Yn 2016 enillodd ran Eleven yn sioe Stranger Things ar Netflix; enillodd 26   enwebiad a 10 gwobr am y rôl hon. 

Hi yw’r unigolyn ieuengaf erioed i gael ei phenodi’n Llysgennad Ewyllys Da UNICEF.

Yn 2017, cafodd ei henwi gan gylchgrawnTime  fel un o’r 100 bobl fwyaf dylanwadol yn y byd.

Bruce Willis (1955 - current) 

Yn ystod ffilimo Die Hard, collodd Willis 2/3 o’i glyw yn ei glust chwith o ganlyniad i danio gwn yn rhy agos at ei glustiau.  Ond ar ôl hyn, mae wedi ymddangos mewn dros 100 o ffilmiau, a 9 o sioeau teledu. 

Mae wedi derbyn 10 gwobr ac anrhydedd, gan gynnwys seren ar Rodfa Enwogion Hollywood. 

Mae wedi cyhoeddi tri albwm (recordiwyd dau ohonynt ar ôl colli ei glyw) ac wedi cyfrannu at 7 cân. 

Bruce Willis
Helen Keller 2

Helen Keller (1880—1968) 

Yn 19 mis oed, cafodd Keller salwch a achosodd iddi golli ei golwg a’i chlyw. 

Daeth Anne Sullivan, oedd yn 20 oed, ac oedd yn rhannol ddall, yn athrawes gartref a chydymaith Keller trwy gydol ei bywyd.  Cychwynnodd dysgu’r ferch ifanc ar unwaith sut i gyfathrebu trwy olrhain llythyrau ar gledr ei llaw. 

Ar ôl mynychu nifer o ysgolion i bobl fyddar, aeth Keller i Goleg Radcliff, adran Prifysgol Harvard ar gyfer merched. Hi oedd yr unigolyn byddar a dall cyntaf i dderbyn gradd BA. 

Dysgodd siarad, a byddai’n gwrando trwy gyffwrdd â cheg a gwddf y siaradwr. Roedd hefyd yn gallu darllen iaith arwyddion a Braille yn rhugl. 

Daeth Keller yn awdur a siaradwr cyhoeddus byd enwog. Ysgrifennodd 12 o lyfrau, a theithiodd i fwy na 40 gwlad. 

Er ei bod yn dod o deulu oedd wedi bod yn berchen ar weision, rhoddodd arian i NAACP a helpodd sefydlu ACLU i ddiogelu hawliau trigolion Duon Americanaidd.

Ym 1964 derbyniodd Medal Rhyddid yr Arlywydd, a chafodd ei ethol i Neuadd Enwogion Genedlaethol Menywod y flwyddyn wedyn.

Autism

Awtistiaeth

Hans Christian Andersen (1805—1875) 

Hans Christian Andersen

Golchwraig anllythrennog oedd mam Andersen, a dim ond addysg sylfaenol a dderbyniodd wrth gynnal ei hun o safbwynt ariannol. 

Yn 14 oed, cafodd ei dderbyn i Theatr Frenhinol Ddanaidd. Roedd y cyfarwyddwr, Jonas Collin, yn gyfeillgar iawn gyda’r bachgen; anfonodd  Andersen i Ysgol Ramadeg, gan berswadio’r Brenin Ffredric VI i dalu rhan o’r ffioedd.

Nid oedd cyfnod Andersen yn yr ysgol yn un hapus.  Roedd yn destun bwlio gan blant yn ei ddosbarth, a chafodd ei gam-drin gan un o’r athrawon er mwyn “gwella ei gymeriad”. 

Ysgrifennodd ei stori gyntaf, The Ghost at Palnatoke's Grave, ym1822. 

Daeth yn enwog trwy gyhoeddi llwyth o straeon tylwyth teg; roedd ei feirniaid yn casáu ei arddull anffurfiol, ond roedd plant ifanc a’r Teuluoedd Brenhinol wrth eu bodd.

Teithiodd ar draws Ewrop, gan gasglu straeon, yn ogystal â chreu ei straeon ei hun: roedd Thumbelina a The Little Mermaid ymhlith rhai o’i waith creadigol ei hun. 

Yn ôl y seiciatrydd Michael Fitzgerald, roedd Andersen yn arddangos llawer o symptomau Syndrom Asperger megis anawsterau cymdeithasol, diddordebau penodol, arferion ailadroddus, manyldeb lleferydd ac iaith, a lletchwithdod. Wrth aros gyda’i ffrind Charles Dickens, roedd Hans Christian Andersen wedi drysu’r teulu trwy arddangos emosiynau cryf, taflu ei hun ar y lawnt, a llefain pan roddwyd adolygiad anffafriol i un o’i lyfrau. 

Yn ôl Andersen, roedd hanes yr Hwyaden Fach Hyll  yn “adlewyrchiad o’i fywyd ef” - sef hanes hwyaden fach sy’n cael ei bwlio gan bawb oherwydd ei fod yn wahanol, ond wedyn mae’n tyfu’n alarch bendigedig.

Erbyn hyn mae ei chwedlau’n enwog yn fyd-eang.  Mae wedi ysbrydoli ffilmiau gan Disney, ballet, operâu, sioeau teledu, a ffigurau ymadrodd. Mae ei ben-blwydd yn cael ei ddathlu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Llyfr. 

Hans Christian Andersen

Hannah Gadsby (1978—present) 

Cyn symud i fyd comedi, bu Gadsby yn gweithio mewn siop lyfrau, fel tafluniwr, ac yn plannu coed a llysiau. 

Roedd yn dioddef oherwydd digartrefedd ac o dreulio amser yn yr ysbyty. 

Yn 2006 cymerodd ran yn Raw Comedy, cystadleuaeth gomedi flynyddol yn Awstralia. Enillodd y wobr gyntaf ar lefel genedlaethol.

Enillodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth So You Think You’re Funny? yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, a hyn oedd y sbardun iddi gystadlu mewn gwyliau comedi ar draws Awstralia.

Wrth ymateb i ddadl genedlaethol ynghylch priodas un rhyw, ac yn sgil derbyn diagnosis awtistiaeth ac ADCG, ysgrifennodd Gadsby Nanette.

Cafodd ei ryddhau ar Netflix yn 2018; derbyniodd statws 100% ar Rotten Tomatoes, yn ôl cylchgrawnTime hon oedd Rhaglen Gomedi Stand-yp Gorau 2018, ac enillodd 7 o wobrau.

Yn 2019, ysgrifennodd Gadsby y sioe gomedi, Douglas, a aeth ar daith hefyd, ac a ddangoswyd ar Netflix yn 2020. 

Hannah Gadsby

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ac wedi actio mewn sioeau teledu, ac mae’n traddodi darlithoedd celf (mae ganddi Radd BA mewn Hanes Celf a Churaduriaeth). 

Mewn cyfnod o oddeutu deng mlynedd, mae wedi ennill 17 enwebiad a 12 gwobr am ei gwaith comedi. 

Hannah Gadsby
Wolfgang Amadeus Mozart

Wolfgang Amadeus Mozart (1756 – 1791) 

Cyfansoddodd Mozart ei waith cyntaf yn 5 neu 6 mlwydd oed, a pherfformiodd ochr yn ochr â’i chwaer mewn Llys Brenhinol yn 6 oed. 

Cyfansoddodd ei symffoni gyntaf yn 8 oed, a’i opera cyntaf yn14 oed. 

Ar ôl gweithio i’r Archesgob Colloredo a chyflawni cyfnod o waith llawrydd, llwyddodd Mozart i wireddu ei freuddwyd, a chael ei gyflogi gan yr Ymerawdwr Joseph II. 

 

Mewn cyfnod o 12 mlynedd yn unig, cyfansoddodd Mozart dros 600 o weithiau, ac ystyrir mai ef yw un o’r cyfansoddwyr clasurol gorau erioed.

Mae’n debyg fod Mozart yn gwneud ystumiau ailadroddus â’i wyneb, yn symud ei ddwylo a’i draed yn barhaus yn anfwriadol, gyda thuedd i neidio; yn ystod pwl o ddiflastod rhyw ddiwrnod, neidiodd dros y dodrefn, ac olwyndroi wrth wneud sŵn fel cath. Byddai ei hwyliau’n amrywio rhwng diflastod eithriadol a ffocws dwys, ac roedd yn hynod sensitif i synau mawr. Mae’n ddigon posib fod gan Mozart awtistiaeth a/neu Syndrom Tourette, ac mae’n bosib fod ei allu creadigol eithriadol yn deillio o’i niwrowahaniaeth.

Virginia Woolf (1882 – 1941) 

Virginia Woolf

Llenor o Loegr oedd Adeline Virginia Woolf,  ac ystyrir mai hi yw un o awduron pwysicaf modernaidd yr 20fed ganrif; ac roedd yn gyfrifol hefyd am arloesi ym maes defnyddio llif ymwybod fel dyfais adrodd stori.

Ar ôl cael ei haddysgu gartref fel plentyn, aeth i Goleg y Brenin, Llundain, lle cafodd ei chysylltiad cyntaf gyda mudiad hawliau menywod. 

 

Dechreuodd ysgrifennu ym 1900 a helpodd sefydlu’r Bloomsburg Group ym 1912, sef grŵp artistig a llenyddol; roedd y grŵp yn cynnwys arlunwyr, llenorion, ac economegydd oedd yn hoff iawn o ac yn gwerthfawrogi’r celfyddydau.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Voyage Out, pan roedd yn 33 oed. Un o themâu’r nofel oedd yr anghytgord rhwng meddyliau a geiriau a fynegir.

Ym 1917 sefydlodd Virginia Gwasg Hogarth gyda’i gŵr, a thrwy’r wasg yma y cyhoeddwyd mwyafrif ei gweithiau. 

Ysgrifennodd cyfanswm o 9 nofel, ynghyd â dros 500 traethawd ac adolygiadau (rhai ohonynt mor hir â llyfrau). Ystyrir fod un o’i thraethodau, A Room of One’s Own, yn waith allweddol o safbwynt beirniadaeth lenyddol ffeministaidd. Cyfieithwyd ei gwaith i 50 o ieithoedd.

Cymerodd yn hirach nag arfer i Virginia Woolf ddysgu siarad.  Roedd yn dioddef o anorecsia, yn methu edrych i lygaid pobl, ac roedd yn hynod swil, ac yn teimlo’n ynysig yn ystod ei harddegau. Roedd yn mwynhau cymdeithasu, ond yn casáu pobl yn syllu arni. Roedd ganddi obsesiwn gyda’i phinnau, a byddai ond yn ysgrifennu wrth sefyll.

Mae’n debyg iddi ddioddef o anhwylder deubegwn; ac mae cymaint â 30% o bobl awtistig yn arddangos y symptomau hyn. Doedd dim triniaeth effeithiol ar gyfer salwch meddyliol yn ystod cyfnod Woolf oedd yn golygu ei bod yn gorfod dioddef o waeledd meddwl ac yn y pendraw, yn drist iawn, cymerodd ei bywyd ei hun. 

Virginia Woolf

Greta Thunberg (2003 - present) 

Greta Thunberg

8 oed oedd Thunberg pan ddaeth yn ymwybodol am newid yn yr hinsawdd am y tro cyntaf; ac roedd y darganfyddiad wedi achosi cymaint o dristwch iddi, roedd wedi rhoi’r gorau i fwyta a siarad yn 11 oed. 

Am ddwy flynedd, bu’n herio ei theulu ei hun i leihau eu hôl-troed carbon, nes iddynt droi’n fegan, dechrau uwchgylchu a rhoi’r gorau i hedfan (ac o ganlyniad daeth gyrfa ei mam fel cantores opera ryngwladol i ben).

Cafodd ei hysbrydoli i streicio o’r ysgol gan fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas yn Fflorida, oedd yn gwrthod mynd i’r ysgol fel rhan o ymgyrch gwrthdystio yn erbyn deddfau gynnau llac. 

Ar ôl ennill cystadleuaeth ysgrifennu traethawd, cysylltwyd â hi gan Fossil Free Dalsland, oedd yn ei hannog i streicio. Nid oedd yn bosib perswadio ei chyfoedion i ymuno â hi, felly yn Awst 2018 dechreuodd Thunberg wrthdystio wrth ei hun. 

Postiodd Thunberg lun o’i diwrnod cyntaf yn streicio ar Instagram a Twitter. Diolch i gyfryngau cymdeithasol lledodd y stori’n gyflym ac ar yr ail ddiwrnod ymunodd unigolion eraill â’i hymgyrch. Mewn ychydig dros wythnos, roedd ei hanes ar y newyddion rhyngwladol. 

Erbyn Rhagfyr 2018 roedd dros 20,000 o fyfyrwyr wedi cynnal streic mewn o leiaf 270 dinas. 

Anerchodd Greta Thunberg Gynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn 2018, Fforwm Economaidd y Byd 2019, Uwchgynhadledd y CU 2019 ar Weithredu ar yr Hinsawdd, Cynhadledd 2019 y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Fforwm Economaidd y Byd 2020, ac ym Mhwyllgor yr Amgylchedd y Senedd Ewropeaidd yn 2020. Mae hi hefyd wedi cwrdd ag actifyddion ym maes yr hinsawdd ar draws y byd, llywodraethau cenedlaethol, a’r Pab Francis. 

Mae wedi bod yn agored iawn am syndrom Asperger gan nodi “Rhodd yw bod yn wahanol. Mae’n gwneud imi weld pethau o du allan i’r blwch. Nid wyf yn credu celwyddau’n hawdd iawn, rwyf yn gallu gweld trwy bethau.  Pe bawn i fel pawb arall, ni fuaswn wedi cychwyn y streic mewn ysgolion er enghraifft”.

Greta Thunberg 2
Anthony Hopkins

Syr Philip Anthony Hopkins, CBE (1937—present) 

Actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cyfansoddwr ac arlunydd yw Anthony Hopkins sy’n hanu o Gymru.

Nid oedd yn hoffi’r ysgol, ac roedd yn well ganddo ganolbwyntio ar y theatr ac arlunio. Yn 2002, dywedodd "nid oeddwn yn ddysgwr da iawn, oedd yn golygu fy mod yn destun gwawdio, ac roedd gennyf gymhleth israddoldeb. Tyfais fyny yn sicr fy mod yn ddwl." 

Graddiodd Hopkins o Goleg Celf a Drama Frenhinol Cymru ym 1957, ac aeth ymlaen i astudio yn Academi Celf Ddramatig Frenhinol Llundain.

Ymddangosodd ar lwyfan fel actor proffesiynol am y tro cyntaf yn Theatr y Palas, Abertawe ym 1960. Ym 1965 sylwodd yr actor a’r cyfarwyddwr  Laurence Olivier arno, ac estyn gwahoddiad iddo ymuno â’r Theatr Genedlaethol Frenhinol yn Llundain. 

Y tro cyntaf iddo ymddangos ar y teledu oedd ym 1967 mewn rhaglen ar y BBC A Flea in Her Ear, a daeth ei rôl fawr gyntaf yn y ffilm Changes ym 1964.

Enillodd Hopkins ei enwebiad cyntaf ym 1968 ar gyfer ei rôl fel Richard the Lionheart yn y ffilm The Lion in Winter. 

Mae’n debyg taw rôl enwocaf Anthony oedd fel Hannibal Lecter yn The Silence of the Lambs. Enillodd Oscar a BAFTA ar gyfer yr Actor Gorau, a chafodd ei alw’n ddyn drwg gorau ffilmiau erioed. 

Roedd yn enwog am ei ddawn o gofio llinellau; yn ystod ffilmio Amistad (1997) traddododd araith saith tudalen o hyd mewn golygfa o’r llys.

Ym 1998 Hopkins oedd y perfformiwr Prydeinig oedd yn denu’r cyflog uchaf, ac yn 2003 enillodd seren ar Rodfa Enwogion Hollywood. 

Yn 2017 mewn cyfweliad gyda’r Desert Sun, nododd Hopkins iddo dderbyn diagnosis o syndrom Asperger. 

Erbyn 2021 mae wedi actio mewn dros 80 ffilm, mwy na 40 o sioeau teledu, a dros 20 drama. Mae wedi ennill 50 gwobr am ei weithiau amrywiol.

Chronic Pain

Poen Cronig

Norma Jean Mortenson /

Marilyn Monroe (1926 - 1962) 

Cafodd Norma Jean blentyndod trwblus. Anfonwyd ei mam a’i mam-gu a’i thad-cu i sefydliad iechyd meddwl, a symudodd hi rhwng cartrefi maeth a chartref plant amddifad. Dioddefodd o gam-drin ac esgeulustod, ac o ganlyniad datblygodd atal dweud. Priododd yn 16 oed er mwyn osgoi gorfod dychwelyd i’r cartref plant amddifad.

 

Ym 1944 tynnwyd ffotograff ohoni wrth ei gwaith gyda’r Radioplane Company. Tra roedd ei gŵr oddi cartref fel llongwr, arwyddodd cytundeb gyda’r Blue Book Model Agency ym mis Awst 1945 a dyna ddechrau ei gyrfa fel model. Roedd yn gweithio’n hynod galed, ac roedd yn llawn uchelgais; mewn un flwyddyn yn unig, ymddangosodd ar gloriau blaen 33 o gylchgronau. 

Ym 1946 arwyddodd ei chontract ffilm cyntaf, a dechrau hyfforddi fel actores. Dewisodd yr enw llwyfan Marilyn Monroe, a chafodd ysgariad oherwydd nid oedd ei gŵr o blaid ei gyrfa newydd.

Yn y flwyddyn 1952, enwyd Marilyn Monroe fel “y Seren Fwyaf ar ei Chynnydd” y flwyddyn honno gan Photoplay Magazine, cafodd ei choroni gan Redbook Magazine fel “y Bersonoliaeth Ifanc Orau”, yn ôl Advertising Association of the West hi oedd y “Ferch oedd yn cael ei Hysbysebu Fwyaf trwy’r Byd” ac enillodd wobr Golden Globe fel “Ffefryn Benywaidd y Byd Ffilm” y flwyddyn honno. Trwy gydol ei bywyd cafodd ei henwebu ar gyfer 20 o wobrau, gan ennill 11 ohonynt.

 

Ei ffilm fwyaf enwog yw’r comedi Some Like it Hot (1959). Enillodd Golden Globe ar gyfer yr  “Actores Orau” ac enillodd y ffilm glod fel “un o’r ffilmiau gorau erioed” gan y BBC ac AFI. 

 

Mae’n bur debyg i Monroe ddioddef o endometriosis difrifol. Roedd yn cael poenau gwanychol adeg ei mislif, yn cael trafferth cysgu, cafodd nifer o erthyliadau naturiol, a beichiogrwydd ectopig, a daeth yn gaeth i boenladdwyr.  Gwrthododd cael hysterectomi, oherwydd un o’i breuddwydion oedd cael plentyn biolegol. Yn ôl rhai pobl, y poen cronig oedd y rheswm am ei hunanladdiad trwy orddos barbitwradau. Dim ond 36 oed oedd hi adeg ei marwolaeth.

 

Er gwaethaf ei bywyd byr, mae Marilyn Monroe yn enwog ar draws y byd.  Mae hi wedi ysbrydoli nifer fawr o gerddorion, artistiaid, ffasiwn, dramâu, gweithiau academaidd, a menywod. 

Marilyn Monroe

Alffred Mawr (848/849 to 899)

Ganwyd Alffred yn fab i Æthelwulf, y brenin Sacsonaidd. Teyrnasodd ei dri brawd cyn Alffred, ond nid am gyfnodau hir iawn.

 

Dysgodd ddarllen yn 12 oed.  Roedd yn frwdfrydig iawn am annog llythrennedd yn ei deyrnas a chyhoeddodd gorchymyn i gyfieithu llyfrau o’r Lladin i’r Saesneg er mwyn i fwy o bobl allu eu darllen. 

Coronwyd Alffred yn Frenin Wessex, teyrnas oedd yn ymestyn yn fras rhwng Dyfnaint a Chaint, yn ei 20au cynnar. Erbyn hynny, roedd Llychlynwyr Danaidd wedi heidio i ac wedi gwladychu rhannau helaeth o Loegr, a thra roedd yn trefnu angladd ei frawd, dyma nhw’n heidio i deyrnas Alffred. Bu’n rhaid i Alffred arwyddo cytundeb heddwch syth ar ôl esgyn i’r orsedd.

 

Yn Ionawr 878 torrwyd y cytundeb heddwch gan y Daniaid. Ymosodwyd ar gadarnle Alffred dros gyfnod y Nadolig, a lladd bron pawb. Llwyddodd Alffred i ddianc gyda nifer fach o’i filwyr. 

alfred the great
Alfred the Great

Er ei fod yn ymguddio, heb fawr o bŵer neu ddylanwad, llwyddodd Alffred i gynnal ymgyrch gwrthsefyll, ac erbyn dechrau mis Mai roedd ganddo dair byddin.

 

Enillwyd Brwydr Edington gan fyddin Sacsonaidd Alffred, ac aethant ymlaen i roi gwarchae ar Gadarnle’r Daniaid yn Chippenham a gorfodi’r gelyn i ildio trwy eu newynu. Fel rhan o’r ildiad, gorfodwyd Brenin y Daniaid a 29 o’i brif filwyr ymwadu eu duwiau, a chael eu bedyddio i’r ffydd Gristnogol.

 

Erbyn tua 880, roedd Alffred wedi dod i gytundeb gyda’r Daniaid, oedd yn golygu ei fod yn teyrnasu Gorllewin Mersia (gan gynnwys Llundain) gyda’r Llychlynwyr yn teyrnasu Dwyrain Mersia. Parodd yr heddwch am dros ddegawd, ar wahân i ambell gyrch bach bob hyn a hyn. 

Ar ddechrau’r 890au, dyma’r Daniaid yn dechrau ymosod eto, ond cilio wnaethon nhw i Ddenmarc, wedi eu gorchfygu i raddau helaeth, erbyn 897. 

Mae’n bur debyg i’r Brenin Alffred fyw gyda Chlefyd Crohn. Roedd yn dioddef o hap-ymosodiadau hynod boenus yn ei fol (hyd yn oed yn ystod gwledd ei briodas), rhwymedd, dolur rhudd, a haemoroidau. Er gwaethaf hyn, roedd yn dal i frwydro mewn brwydrau, yn teyrnasu, ac yn cyfarwyddo ei grefftwyr a’r bobl oedd yn hyfforddi anifeiliaid iddo, yn mwynhau llenyddiaeth a dylunio, a byw nes ei fod yn 50 oed. 

Frida Kahlo

Frida Kahlo (1907 to 1954) 

Roedd Frida Kahlo wedi cael polio yn 6 mlwydd oed. Roedd hi’n gaeth i’w gwely am naw mis, ac roedd ei choes dde’n deneuach o lawer na’r chwith.  Trwy gydol ei bywyd, gwisgodd sgertiau hir i guddio ei choesau anghyfartal a’i chloffni. 

 

Roedd Kahlo wedi mwynhau celf ers yn ferch ifanc, ond nid dyna ei bwriad o ran ei gyrfa; ei bwriad oedd mynd i ysgol feddygol nes, yn sgil damwain bws difrifol, roedd yn anabl, ac yn dioddef o boen cronig yn 18 mlwydd oed. 

 

Tra roedd hi’n gaeth i’r gwely oherwydd ei hanafiadau y cychwynnodd paentio o ddifrif, a defnyddiodd y grefft i dynnu’r sylw oddi ar ei phoen. Defnyddiodd îsl pwrpasol oedd yn golygu y gall paentio wrth orwedd. Y pryd hynny, roedd mwyafrif ei gwaith yn bortreadau o’i hunan, ei chwiorydd a ffrindiau ysgol. 

Ym 1929 priododd Kahlo â’r artist Diego Rivera; yn ystod eu bywydau, roedd e’n llawer mwy enwog na hi, ac felly bydden nhw’n teithio’n aml tra roedd wrth ei waith. Roedd y berthynas rhyngddynt yn anghyffredin, gyda’r ddau’n byw ar wahân ac yn cael perthynas gyda nifer o bobl eraill, ond roeddynt yn caru ei gilydd yn angerddol. 

 

Roedd dawn artistig Kahlo yn parhau i esblygu.  Trwy ei phortreadau, roedd yn ystyried themâu hunaniaeth a bodolaeth, ac yn aml, byddai ei gwaith yn cyfleu agweddau hynod bersonol a phoenus ar ei bywyd. 

 

Ym 1938 cynhaliodd Frida Kahlo arddangosfa yn oriel Dinas Efrog Newydd, lle gwerthodd rhai o’i gweithiau a llwyddodd i gael 2 waith comisiwn. Ym 1939 cafodd wahoddiad i arddangos ei gwaith ym Mharis, lle daeth yn ffrindiau gyda Pablo Picasso. Yn yr un flwyddyn y cynhyrchodd un o’i gweithiau mwyaf enwog, The Two Fridas.

 

Ym 1941 comisiynwyd Kahlo gan lywodraeth Mecsico i baentio pum portread o fenywod pwysig yn hanes eu gwlad. Bu farw ei thad, a gwaethygodd ei hafiechyd ei hun, felly ni lwyddodd i orffen y prosiect hwn. 

 

Ym 1944 paentiodd un arall o’i gweithiau enwocaf, The Broken Column, oedd yn cyfleu’r poen cefn cronig oedd yn effeithio arni. 

 

Ym 1950, cadarnhawyd bod Kahlo yn dioddef o fadredd. Er hyn, aeth i’w harddangosfa gelf ei hun; cyrhaeddodd mewn ambiwlans, a dathlodd mewn gwely a osodwyd yn yr oriel iddi.

 

Y tro olaf iddi ymddangos yn gyhoeddus oedd adeg cymryd rhan mewn gwrthdystiad yn erbyn ymgais a gefnogwyd gan UDA i ddisodli’r Arlywydd  Jacobo Arbenz, Guatemala; bu farw llai na phythefnos wedyn.

 

Mae gwaith a bywyd Frida Kahlo wedi ysbrydoli llawer iawn o artistiaid ffeminyddion, pobl LGBT+ a phobl sy’n byw gydag anableddau. Bellach mae Frida Kahlo yn enwog trwy’r byd fel eicon. 

George Clooney (1961 to present) 

Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr Americanaidd yw George Clooney. 

 

Cyn cychwyn ym myd actio, roedd yn gweithio ym maes gwerthu ac adeiladu, ac ni raddiodd o’r brifysgol. 

 

Cafodd Clooney ei rôl fawr gyntaf ym 1984, mewn rhaglen gomedi ar y teledu E/R. Daeth yn enwog am ei ran yn y ddrama feddygol ER, ac enillodd dau enwebiad Emmy a thri enwebiad Golden Globe ar gyfer ei waith. Dechreuodd actio mewn ffilmiau yn ystod ei gyfnod gydag ER. 

 

Yn 2001 George Clooney oedd seren y ffilm Ocean’s Eleven; llwyddodd y ffilm i ennill cyfanswm o $451 miliwn bedwar ban byd, a hon oedd ffilm fwyaf llwyddiannus Clooney fel seren. 

Yn 2005, yn ystod stỳnt wrth ffilmio Syriana, cafodd Clooney ddamwain gan achosi niwed i’w benglog ac anafu ei asgwrn cefn mewn dau le.  O ganlyniad i’r ddamwain, roedd yn colli hylif yr ymennydd yn barhaus, ac arweiniodd hyn at boen cronig nad oes wella arno; am ychydig, roedd y seren wedi ystyried lladd ei hun. Er hynny, aeth ymlaen i serennu yn y ffilmiau Good Night, a Good Luck yr un flwyddyn, a diolch i Syriana,  enillodd Oscar am yr Actor Ategol Gorau.

 

Rhwng ei ddamwain ar set  Syriana a 2020, actiodd mewn 21 cynhyrchiad, a chyfarwyddodd 6 ffilm. 

 

Cyhoeddodd y cylchgrawn Time fod Clooney’n un o’r 100 o Bobl Fwyaf Dylanwadol trwy’r Byd yn 2007, 2008, a 2009. Mae wedi ennill 21 gwobr am ei waith cyfarwyddo ac actio, a derbyniodd Gwobr Cyrhaeddiad Bywyd yr AFI yn 2018. 

George Clooney

Louisa May Alcott (1832 to 1888) 

Roedd gan deulu Alcott drafferthion ariannol o hyd. Athronydd oedd ei thad oedd yn dibynnu ar ei wraig a’i ferched i ennill bywoliaeth i’r teulu bob tro y byddai un o’i ymdrechion ideolegol yn methu. I gefnogi’r teulu, roedd Louisa yn gweithio fel athrawes, gwniadwraig, athrawes gartref, cynorthwyydd domestig, nyrs ac awdur. Dim ond y chwaer ieuengaf o bedair aeth i’r ysgol.

 

Ym 1847, roedd y teulu’n gwasanaethu fel Gorsaf-feistri’r Rheilffordd Danddaearol. Roedd Alcott yn credu’n gryf mewn cyfiawnder cymdeithasol, yn eirioli dros ddileu gweision a chael phleidlais i ferched trwy gydol ei bywyd. Hi oedd y ddynes gyntaf yn ei thref i gofrestru i fwrw pleidlais.

Ysgrifennodd ei llyfr cyntaf, Flower Fables, yn 17 oed, a chyhoeddodd ei cherdd gyntaf yn 19 oed. Trwy gydol ei bywyd, cafodd Alcott lawer o swyddi ysgrifennu gwahanol; bu’n golygu cylchgronau, yn ysgrifennu llythyrau at bapurau newydd, yn llunio sgetshis doniol, straeon byrion rhyfeddol, chwedlau a nofelau.

louisa may alcott
louisa may alcott

Yn ystod Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau, gwasanaethodd Louisa May Alcott fel nyrs yr Undeb, ac aeth yn ddifrifol wael oherwydd teiffoid. Yn ôl rhai haneswyr, deilliodd ei hafiechyd gydol oes o’r feddyginiaeth a gymerodd yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd roedd yn cynnwys arian byw. Yn ôl eraill, achosodd yr arian byw clefyd hunanimiwn, lupus efallai.

Cofnododd Alcott ei salwch a’i phoen cronig mewn llythyrau a dyddiaduron yn ddiweddarach. Roedd yn dioddef o boen pen, blinder, poen yn y cymalau a’r nerfau, problemau gyda’r system traul, a “llid pili pala” ar ei hwyneb. Yn aml byddai’n mynd am dro hir, neu’n rhedeg gan herio arferion cymdeithas, ac arbrofodd gydag ystod o feddyginiaethau homeopathig. 

 

Ym 1868 y cyhoeddodd Alcott ei nofel enwocaf, Little Women. Roedd yn lled-fywgraffiadol, gyda chymeriadau a digwyddiadau a ysbrydolwyd gan ei bywyd ei hun. Cyhoeddwyd Good Wives a Little Men yn fuan wedyn, gyda Jo’s Boys ym 1886 yn cwblhau’r gyfres. 

Ysgrifennodd Louisa May Alcott 20 nofel, 19 casgliad o straeon byrion ar gyfer plant, dros 40 o straeon a sgetshis ar gyfer cylchgronau a nifer o gerddi yn ystod ei hoes. Hefyd, helpodd sefydlu Undeb Addysgol a Diwydiannol i Ferched, a phan fu farw ei chwaer, gofalodd am ei nith.

Michelangelo di Lodovico Buonarroti Simoni (1475 to 1564) 

Bu farw mam Michelangelo pan roedd yn chwe blwydd oed, felly aeth i fyw gyda’i famaeth. Naddwr cerrig oedd ei gŵr hi, ac roedden nhw’n byw ger chwarel marmor; bachgen ifanc oedd Michelangelo pan syrthiodd mewn cariad â cherflunio.

 

Anfonwyd y bachgen ifanc i Florence i astudio gramadeg, ond roedd yn well ganddo baentio a threulio amser gydag artistiaid yn lle astudio. Yn 13 oed, aeth yn brentis i Domenico Ghirlandaio, un o feistri paentio golchluniau, ac erbyn 14 roedd Michelangelo yn ennill cyflog artist. 

 

Yn 24 mlwydd oed, gorffennodd Michelangelo Pietà, cerflun o’r Forwyn Fair a’r Iesu. Tybir taw hwn oedd un o gampweithiau cerflunio’r byd cyfan. Yn 29 oed, gorffennodd un arall o’i gerfluniau enwocaf, David. 

Michelangelo Daniele da Volterra

Blwyddyn ar ôl gorffen David, comisiynwyd Michelangelo gan y Pab i adeiladu ei feddrod. Ar yr un pryd, roedd yr artist yn paentio 500 metr sgwâr o nenfwd y Capel Sistinaidd. Cymerodd 4 blynedd i orffen y nenfwd, a 40 mlynedd i orffen y beddrod. 

 

Yn ogystal â cherflunydd, arlunydd a phensaer, cyfansoddodd Michelangelo dros 300 soned a chyfansoddiadau cerddorol hefyd.

 

Wrth heneiddio, dechreuodd Michelangelo gwyno am “gymalwst” ac anystwythder yn ei ddwylo. Erbyn 1552 roedd ysgrifennu’n boenus iawn iddo, a rhoddodd y gorau iddo’n gyfan gwbl, gan lofnodi ei enw’n unig pan fyddai angen.  Mewn portreadau ohono, roedd mân namau corfforol i’w gweld yn ei ddwylo; yn ôl meddygon cyfoes, roedd yn dioddef o arthritis. 

 

Er gwaethaf y poen ac er i gyflwr ei ddwylo dirywio, llwyddodd Michelangelo i baentio golchlun ar gyfer y Pab, cynorthwyodd i ddylunio 5 adeilad, a chreu cerflun Rondanini Pietà; gorffennwyd y cerflun olaf hwn ychydig ddyddiau cyn iddo farw.

 

Mae’n debyg mai defnyddio morthwyl a gaing a achosodd ei boen, ond roedd hefyd wedi arafu dirywiad ei gymalau; roedd Michelangelo yn creu gweithiau celf hyd at chwe diwrnod cyn iddo farw’n 88 oed.

 

Ym marn rhai pobl, Michelangelo yw un o’r artistiaid gorau erioed. Mae nifer o’i weithiau ymhlith darnau celf enwocaf hanes. 

bottom of page