Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Credwn mewn Gofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr
Cysylltwch â ni – cewch groeso cynnes


Mae Credu’n cefnogi: Gofalwyr Ifainc: WCD – Gofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr ym Mhowys - Gofalwyr Ceredigion
Ydych chi’n gofalu am rywun?

Ydych chi’n gofalu am rywun sy’n wael neu’n anabl? Os felly, gall Credu eich helpu – Gofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr ym Mhowys, Oedolion sy’n Ofalwyr yng Ngheredigion (Gofalwyr Ceredigion) a Gofalwyr Ifainc yn Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (Gofalwyr Ifainc WCD)
Cefnogaeth ichi fel Gofalwr: Mae ein dulliau cymorth yn dibynnu arnoch chi a’r hyn sydd mwyaf pwysig ichi; rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wrando arnoch a darganfod y ffordd orau ymlaen gyda chi. Gweler isod rhai enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael:

Gwybodaeth ac adnoddau

Cyngor a chefnogaeth gyfrinachol adeg y cyswllt cyntaf, a thrwy ein tîm o weithwyr estyn allan a gwirfoddolwyr

Cyfleoedd i ddiwallu cyfrifoldebau gofal pobl eraill

Grwpiau i ofalwyr ifainc ac oedolion sy’n ofalwyr

Gweithgareddau / tripiau i ofalwyr ifainc, oedolion sy’n ofalwyr ac i deuluoedd cyfan

Asesiadau llesiant i ofalwyr

Eiriolaeth i ddelio gyda darparwyr gwasanaethau eraill a chefnogi gofalwyr i gynrychioli eu hunain

Cwnsela

Cyfleoedd hyfforddi

Cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith


Meithrin cefnogaeth i ofalwyr ifainc ac oedolion sy’n ofalwyr mewn cymunedau, gwasanaethau a sefydliadau.
Rydym yn gweithio gyda Gofalwyr ac eraill i godi ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr ifainc ac oedolion sy’n ofalwyr yn eu cymunedau a gyda gwasanaethau cyhoeddus megis ysgolion, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol a thai, ynghyd ag elusennau eraill, ac ymhlith cyflogwyr.
Cyfleoedd i ofalwyr ifainc ac oeodlion sy’n ofalwyr i gael llais a dylanwad ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw mewn fforymau / grwpiau llywio lleol a chenedlaethol / ar fyrddau strategol lleol a rhanbarthol.
Rydym yn cyfleu sylwadau gofalwyr i unigolion sy’n gyfrifol am lunio polisi ac yn gwneud penderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol. Hefyd rydym yn cynnal ymgynghoriadau ac yn rhoi adborth ar awgrymiadau i wella gwasanaethau ar gyfer gofalwyr, ac yn chwarae rhan weithgar o ran hyrwyddo hawliau gofalwyr. Rhan allweddol o’n rôl yw helpu meithrin ymwybyddiaeth am ofalwyr, eu rôl a’u hanghenion - ar lefel leol a chenedlaethol.

Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gwirfoddol lleol a chenedlaethol er mwyn cadw mewn cysylltiad â rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael. Rydym yn Bartner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen sy’n cefnogi rhwydwaith o sefydliadau cymorth lleol i ofalwyr.
Mae ein holl gymorth ar gael AM DDIM! Does dim ffi ymaelodi, ac rydym yn dibynnu ar dderbyn cyllid gan amrediad o gefnogwyr a chyllidwyr hael, a chontractau sector cyhoeddus er mwyn gallu rhannu ein hadnoddau gyda gofalwyr a’u teuluoedd.

Yr Adolygiad Mawr

Cysylltu â ni
Wales



