Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!


Ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind?
Os felly, rydych chi’n bwysig hefyd!
Boed yn golygu cefnogi oedolyn neu blentyn, rhywun gydag anabledd, salwch hirdymor, problemau iechyd meddwl neu sy’n camddefnyddio sylweddau.
Rydym yn cefnogi gofalwyr teuluol a di-dâl dros 18 oed yng Ngheredigion trwy:
• gymorth 1:1
• grwpiau cymorth
• hyfforddiant penodol ar gyfer gofalwyr
• help i ofalwyr gael mynediad at seibiannau byr a gofal amgen.
Rydym yn gweithio gyda gofalwyr ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt, oherwydd mae pob gofalwr ac amgylchiadau pawb yn unigryw. Gwnawn ein gorau i ddarparu’r cymorth yma ym mha bynnag ffordd sydd orau ichi, boed hynny wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn, ebost neu neges destun. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac mae ar gael am ddim.
I dderbyn cymorth, neu i ddysgu mwy, ffoniwch 03330 143377 neu anfonwch ebost at: ceredigion@credu.cymru
Ceir hyd i ddolenni grwpiau a digwyddiadau yma: https://www.carers.cymru/ceredigioncarers
Consortiwm yw Gofalwyr Ceredigion sy’n cynnwys Credu – Cysylltu Gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru.
Gallwn gynnig y gefnogaeth isod:






Gwybodaeth ymarferol
Cefnogaeth emosiynol
Cymorth Cyfoedion
Mynediad at gwnsela / therapi
Grwpiau a gweithgareddau i Oedolion sy’n Ofalwyr
Gwyliau byr / gofal seibiant
Ydych chi’n gofalu am rywun gyda chyflwr iechyd a / neu anabledd?
Os felly, rydych chi’n bwysig hefyd!

Gwybodaeth i Oedolion sy’n Ofalwyr
-
Lwfans Gofalwyr – manylion – Ffynhonnell i gael gwybodaeth ar y Lwfans Gofalwyr a sut i’w hawlio. Rhif ffôn: 0800 731 0297
-
Delta Connect (English) – Mae’r prosiect CONNECT yn cynnig gwasanaeth llinell achub bywyd a theleofal ar draws Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion

Gwybodaeth i Oedolion Ifainc
-
Gweithredu dros Blant o Gwasanaeth Gofalwyr Ifainc Ceredigion (i blant ac oedolion ifainc) – Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth unigol i blant a phobl ifanc rhwng 8 - 25 oed. Rhif ffôn: 01437 761330


Mae ystyr y gair Credu yn cyfleu ethos ein gwasanaeth.
Rydym wedi cefnogi gofalwyr ers 2003.
Credwn mewn pobl: eu sgiliau, eu gallu a’u doniau, a’r cydnerthedd sy’n amlwg yn eu bywyd bob dydd.
Credwn yn y cyfraniadau amhrisiadwy a wneir gan ofalwyr tuag at eu hanwyliaid a’u cymunedau.
Credwn fod gofalwyr o bob oed yn haeddu cael ffynnu a manteisio i’r eithaf ar fywyd.
Credwn na ddylai unrhyw un gorfod gwneud hyn wrth ei hunan.
Credwn mewn cefnogi gofalwyr trwy eu cysylltu â beth bynnag sydd ei angen arnynt i wireddu eu llawn botensial.
Ai Gofalwr ydw i?
Os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sy’n wael neu’n anabl, yna Gofalwr ydych. Gall fod yn blentyn / gŵr neu wraig / rhiant neu berthynas arall / ffrind. Mae Gofalwyr yn bwysig iawn i deuluoedd a chymunedau, a gall fod yn werth chweil ac yn heriol mewn ffyrdd amrywiol, ar lefel ymarferol ac emosiynol.
Mae Credu yn credu ynoch chi. Yn ein barn ni mae Gofalwyr yn anhygoel. Pleser yw gwrando arnoch a rhoi’r gefnogaeth sy’n bwysig ichi ym mha bynnag ffordd sy’n addas ichi, boed hynny’n golygu gwybodaeth sylfaenol neu os hoffech ystyried newidiadau cymhleth.
Digwyddiadau



Canu am Hwyl ar ddydd Mawrth
Hoffech chi ganu am hwyl? Gydag eraill, ond yn eich cartref eich hun.

Grŵp Crefftau i Oedolion
Grŵp crefftau ar-lein a gynhelir bob dydd Gwener!

Grŵp Gofalwyr Cymraeg
Gallwch ymuno â Sue Lee o Ofalwyr Ceredigion am 2 o’r gloch bob yn ail ddydd Mercher i gwrdd â Gofalwyr eraill am sgwrs!
Ar gyfer pob digwyddiad cliciwch yma

Newyddion


Cyfrannu



Gwirfoddoli
Gallwch wneud gwahaniaeth i Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd sy’n addas ichi!

Dwi’n gwybod fy mod yn gallu cwyno a chwyno am bethau, ond yn y grwpiau mae rhywun yn gwrando ac yn poeni.
-Gofalwr o Geredigion


Cysylltu â ni

Ar gyfer ein timau ar draws Ceredigion:
I gysylltu â thîm Oedolion sy’n Ofalwyr yng Ngheredigion, gallwch anfon neges at y brif swyddfa trwy ddefnyddio’r ffurflen isod, neu drwy gysylltu â’r brif swyddfa ar: 03330 143377 ein cyfeiriad ebost yw: ceredigion@credu.cymru

