top of page

Croeso i Credu ym Mhowys

Credwn mewn Gofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr

Cysylltwch â ni – cewch groeso cynnes

Credu Logo

A ydych yn gofalu am rywun sy’n sâl neu rywun sydd ag anabledd?

Rydym yma i chi. Gallwch gysylltu â ni, fe fyddwch yn cael croeso cynnes boed os ydych yn cysylltu gydag ymholiad cyflym neu am gefnogaeth.

Mae Credu yn gweithio i gefnogi aelodau’r teulu a ffrindiau sy’n gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl led led Powys.

 

Mae ein Llinell Ffôn ar agor dydd Llun – dydd Gwener o 9am - 5pm.

01597 823800

Anfonwch neges atom a byddwn yn ymateb i chi yn fuan.

Neges wedi Hanfon yn Llwyddiannus

credumet68.jpg
WCD Logo White

Mae Credu hefyd yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc yn Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (trwy Ofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD).

Ceredigion Logo White

a Gofalwyr o bob oedran yng Ngheredigion (trwy Ofalwyr Ceredigion Carers).

Newyddion Diweddaraf

credumet130.jpg

Cefnogaeth i Chi

Mae Credu yma i’ch cefnogi a gwrando arnoch gyda’r materion sy’n cyfrif fwyaf i chi; rydym yma i gyflwyno cefnogaeth i chi gan eich bod yn cyfrif hefyd. Mae ein cefnogaeth yn gwbl hyblyg i weddu i’r hyn sydd ei angen arnoch a’r hyn sy’n gweithio orau i chi:

Mae’r pethau mae gofalwyr yn eu trafod gyda gweithwyr allgymorth yn eang ac yn amrywiol ond yn cynnwys:

  • Jyglo gofalu gyda’r ysgol neu waith

  • Dadlwytho effaith emosiynol gofalu trwy wrando a chefnogaeth neu gwnsela cyfrinachol

  • Atebion ymarferol i heriau bob dydd

  • Gofalu am eich hunan

  • Cael bywyd y tu hwnt i ofalu a chynnig cyfleoedd i gwrdd a chysylltu gyda phobl eraill sydd â chyfrifoldebau gofalu.

  • Dealltwriaeth o anghenion yr unigolyn rydych yn gofalu amdano/amdani

  • Gwybodaeth ac adnoddau o ran arian a budd-daliadau ynghyd â chael cefnogaeth a chael mynediad at wasanaethau

  • Cynnal grwpiau cyfeillgar a chroesawus i ofalwyr ifanc ac oedolion sy’n gofalu

  • Cydlynu gweithgareddau a theithiau i ofalwyr ifanc, oedolion sy’n gofalu a’r teulu cyfan hefyd!

  • Cyfleoedd hyfforddi

  • Cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith

Carers enjoying a cuppa together illustration

Digwyddiadau

‘Diolch yn fawr, rwyf wedi canfod cefnogaeth mor bositif o fewn Credu sy’n grymuso!

Mae ymrwymiad Credu i ofalwyr wedi newid fy mywyd.

Gan roi llais, llwyfan, pwrpas i ni geisio edrych ymlaen a chredu yn ein hunain eto …. paned, sgwrs, clust gyfeillgar, ychydig o gefnogaeth, cyfeiriad positif, llwyfan i wasanaethau, sesiynau therapiwtig gwych … Nid wyf yn teimlo bellach fel fy mod yn broblem tic yn y blwch, ‘dwi’n teimlo fel Hayley unwaith eto …”

Gofalwyr Ifanc / Oedolion Ifanc sy’n Gofalu

Gofalwr ifanc yw rhywun sy’n cefnogi neu’n helpu i ofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl.

Mae gennym dîm cyfeillgar yn Credu sydd yno i ddarparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i ti, i’th gefnogi, i gynnig i’th gynrychioli neu i siarad ar dy ran os wyt ti angen help (er enghraifft gyda’r ysgol) neu i wrando arnat ti yn unig a deall dy sefyllfa.

Rydym yn deall pa mor heriol y gall fod i gefnogi rhywun tra’n jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd megis ysgol/ffrindiau/bywyd cymdeithasol, a pha mor bwysig yw hi i gael rhywun y byddi’n gallu estyn allan atynt i gael sgwrs neu i gael help neu gyngor.

 

Rydym hefyd yn trefnu grwpiau a gweithgareddau cefnogi ac yn gallu dy gysylltu gyda gofalwyr ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Mae Credu yma i ti ac fe fyddwn yn gweithio gyda thi i gyflwyno’r union gefnogaeth sydd ei hangen arnat ac yr wyt ei eisiau.

BreakOutCredu53.jpg
Knighton78.jpg

Oedolion sy’n Gofalu

A ydych yn oedolyn sy’n gofalu am rywun?

 

Pan fyddwch yn gofalu am eich plentyn / gŵr/ gwraig / rhiant neu berthynas arall/ ffrind sy’n sâl neu’n anabl … gall fod yn werth chweil ac yn heriol yn yr un modd

Mae Credu yma i’ch cefnogi chi a chynnig cefnogaeth ymarferol a/neu emosiynol.

Mae ein cefnogaeth yn gwbl hyblyg o amgylch yr hyn rydych chi ei angen a’r hyn sy’n gweithio orau i chi.

Efallai y byddwch angen rhywun i fod yn llais drosoch chi, neu fod angen cyngor arnoch ar bwnc penodol. Efallai y byddwch eisiau cael coffi a sgwrs yn unig. Dewch i gysylltiad, mae ein cefnogaeth yn hollol hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a’r hyn rydych chi’n dweud sydd ei angen arnoch.

 

Rydym hefyd yn trefnu amrywiol grwpiau/gweithgareddau cefnogi y mae croeso i chi ymuno â hwy a chysylltu gyda gofalwyr eraill ynddynt.

Rydym yma i chi ac yn cynnig lefel o gefnogaeth i chi yr ydych yn gyfforddus ag ef. Gallwch gysylltu â ni, fe fyddwch yn derbyn croeso cynnes.

“Mae'r hyn mae Credu yn ei wneud… yn NEWID BYWYDAU” - Ceri Herbert

Cael eich cyflwyno i gefnogaeth

Cliciwch yma am ffurflenni atgyfeirio a hunangyfeirio

credumet70.jpg

Oeddech chi’n gwybod am...

Cerdyn Rwy’n Gofalu (iCare) / Cerdyn Gofalwyr Ifanc Powys

iCare Logo

A fyddai cerdyn sy’n eich dynodi fel Gofalwr neu ofalwr ifanc yn eich helpu chi?

Os felly, gall cerdyn Rwy’n Gofalu Powys fod yn addas i chi.

Yna aml, rhaid i ofalwyr:

  • Gasglu presgripsiynau i’r unigolyn maent yn gofalu amdanynt

  • Casglu bwyd ychwanegol ar gyfer eu hanwyliaid

  • Gwneud teithiau hanfodol, yn union fel gweithwyr gofal cyflogedig.

Gallai’r cerdyn adnabod sicrhau eich bod yn eich blaenoriaethu mewn siopau a fferyllfeydd.

Os hoffech ymgeisio am Gerdyn Rwy’n Gofalu, cysylltwch â carers@credu.cymru / 01597 823800.

Newyddion Diweddaraf

Cymerwch gip ar newyddion diweddaraf Credu trwy ein blog

Gellir tanysgrifio i’r cylchlythyr gwybodaeth trwy glicio’r botymau isod!

Carer sitting at a computer illustration

Cylchlythyr Credu

Online News Reading

Gallwch wybod am ein newyddion diweddaraf, digwyddiadau  a chyfleoedd sydd ar gael yn Credu, trwy ymuno â’n rhestr bostio isod.

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Cylchgrawn Credu

Siopau Elusen a Hybiau Gofalwyr

Oeddech chi’n gwybod fod gennym Siopau Elusen gyda Hybiau Gofalwyr ym Machynlleth?

Cliciwch ar y map isod am fanylion a rhagor o wybodaeth.  

Credu Shop illustration
Carers Emergency Card

Cerdyn Brys i Ofalwyr

Mae’r Cerdyn Brys i Ofalwyr wedi cael ei ddatblygu gan Ofalwyr Cymru fel sicrwydd y bydd yn hysbysu gweithwyr brys ac eraill, petai argyfwng neu ddamwain yn digwydd, fod rhywun yn dibynnu arnoch fel gofalwr. Mae’r cerdyn yn darparu lle ar gyfer cysylltiadau brys, er enghraifft teulu neu ffrindiau a all helpu.

Jointly

Mae Jointly yn cyfuno negeseuon grŵp a rhestrau o bethau i’w gwneud gyda nodweddion defnyddiol eraill, gan gynnwys calendr rhestrau meddyginiaeth a mwy.

Jointly website module
bottom of page