Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!



Ai un o Ofalwyr Ifainc WCD wyt ti?
Os wyt ti’n byw yn Wrecsam, Conwy neu Sir Ddinbych, ac yn 18 oed neu iau, ac yn helpu gofalu am rywun sy’n wael neu’n anabl, yna rwyt yn un o Ofalwyr ifainc WCD. Gall fod yn rhiant / brawd/ chwaer neu berthynas arall. Mae rhai gofalwyr ifainc yn helpu gyda choginio / glanhau / gwisgo; mae rhai’n helpu cysuro’r unigolyn maent yn gofalu amdano, ac yn eu helpu i deimlo’n well. Weithiau gall fod yn wych helpu rhywun arall, ond gall hefyd fod yn bryder ac yn anodd jyglo’r ysgol a chael hwyl yr un pryd â gofalu am rywun. Gall olygu dy fod yn teimlo’n ynysig.
Mae Gofalwyr Ifainc WCD yn credu ynddot ti; yn ein barn ni mae pob gofalwr ifanc yn anhygoel. Rydym yn awyddus iti fanteisio ar fywyd cymaint ag sy’n bosib, a byddem wrth ein bodd yn rhoi cefnogaeth iti a’r teulu gyda’r hyn sy’n bwysig iti mewn ffordd sy’n addas iti.
Enghreifftiau o’r cymorth sydd ar gael gennym:







Gwybodaeth ymarferol
Cymorth 1:1 / cael rhywun i wrando arnat
Grwpiau a thripiau hwyl i Ofalwyr Ifainc / grwpiau teulu
Gweithdai ‘Meithrin dy ddewis fywyd’
Codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth mewn ysgolion / cymunedau
Mentoriaid sy’n gyfoedion
Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifainc

Mae ystyr y gair Credu yn cyfleu ethos ein gwasanaeth.
Rydym wedi cefnogi gofalwyr ers 2003.
Credwn mewn pobl: eu sgiliau, eu gallu a’u doniau, a’r cydnerthedd sy’n amlwg yn eu bywyd bob dydd.
Credwn yn y cyfraniadau amhrisiadwy a wneir gan ofalwyr tuag at eu hanwyliaid a’u cymunedau.
Credwn fod gofalwyr o bob oed yn haeddu cael ffynnu a manteisio i’r eithaf ar fywyd.
Credwn na ddylai unrhyw un gorfod gwneud hyn wrth ei hunan.
Credwn mewn cefnogi gofalwyr trwy eu cysylltu â beth bynnag sydd ei angen arnynt i wireddu eu llawn botensial.


Beth sy’n digwydd


Clwb Amser cinio
Cwrdd ar Zoom
Bob dydd Mercher 12pm

Zoom Uwchradd
Cwrdd ar Zoom
Bob yn ail ddydd Mawrth

Zoom Cynradd
Cwrdd ar Zoom
Bob yn ail ddydd Mawrth
Ar gyfer pob digwyddiad Cliciwch yma


Newyddion

Derbyn y newyddion diweddaraf
I weld newyddion diweddaraf WCD, ewch i’n blog
Gellir tanysgrifio i dderbyn ein cylchlythyr gwybodaeth drwy glicio’r botymau isod!
Gall ein gwaith eich helpu chi neu’r bobl rydych yn eu cefnogi.
Blog diweddaraf WCD
Ar gyfer yr holl Newyddion Cliciwch yma

Cyfrannu


Gwirfoddoli
Gallwch wneud gwahaniaeth i Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd sy’n addas ichi!
Mae 96% o’r plant sy’n destun adolygiad bob chwarter yn nodi bod eu llesiant emosiynol / meddyliol a’u cydnerthedd wedi gwella. O’r 249 sydd wedi ymateb i arolwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, teimlodd
87% bod WCD wedi eu cefnogi i wella perfformiad yn yr ysgol.”

“Weithiau mae’n anodd bod yn Ofalwr Ifanc oherwydd dwi ddim yn cael amser i wneud yr un pethau â phobl ifainc eraill yn eu harddegau”


Siarad gyda ni:
Ar gyfer ein timau ar draws WCD:
I gysylltu â thimau Gofalwyr Ifainc WCD (Gogledd Cymru), gallwch anfon neges at y brif swyddfa trwy ddefnyddio’r ffurflen isod, neu gallwch gysylltu â’r brif swyddfa ar: 01595823800 ein cyfeiriad ebost yw: info@wcdyc.org.uk






