Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Gwybodaeth i Ofalwyr Ifainc

Hawliau Gofalwyr Ifainc
Daw hawliau plant a phobl ifanc o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Eich hawliau fel Gofalwr Ifanc:
-
Yr hawl i ddysgu a chael addysg
-
Yr hawl i gwrdd â ffrindiau a mwynhau grwpiau a chlybiau
-
Yr hawl i ymlacio a chwarae
-
Yr hawl i breifatrwydd
-
Yr hawl i ddweud beth ddylai digwydd yn eich barn chi a chael rhywun i wrando arnoch
Cofiwch gysylltu â Credu os oes angen unrhyw gymorth gyda’ch hawliau! carers@credu.cymru/ 01597 823800/ Credu Carers on Facebook.



Cyfrannu...
I bob Gofalwr Ifanc, dylet fod yn rhan o’r holl benderfyniadau a wneir am dy gymorth. Galli di ddewis cael ffrind neu aelod o’r teulu wrth d’ochr i’th helpu.
Cwrdd a Gwneud
Cyfle i gwrdd â gofalwyr ifainc yn WCD a chymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau.

Yr Ysgol ac Addysg

Gwyddom y gall y rôl gofal, er ei bod yn werth chweil yn aml iawn, hefyd effeithio ar dy lesiant emosiynol neu gorfforol yn yr ysgol, cyraeddiadau addysgol, a chyfleoedd bywyd. Rydym ar gael i roi cefnogaeth iti er mwyn sicrhau nad yw addysg yn straen arall yn dy fywyd, ac i’th helpu manteisio i’r eithaf arni.
Mae’r tîm o weithwyr estyn allan cyfeillgar a chefnogol ar gael i drafod sut i gael cydbwysedd rhwng y rôl gofal a’r ysgol, coleg neu 6ed dosbarth, ac i drafod opsiynau os wyt ti’n awyddus i adael eich cartref i fynd i’r Brifysgol.
Os nad yw’r ysgol yn gwybod dy fod yn ofalwr ifanc, ni fyddant yn gallu rhoi cefnogaeth iti i’r un graddau mewn perthynas â phethau megis bod yn hwyr, a phresenoldeb gwael, peidio cyflwyno gwaith cartref yn brydlon neu raddau isel, colli gweithgareddau allgyrsiol, teimlo’n flinedig ac yn ynysig, neu fwlio.
Gallwn helpu rhoi cefnogaeth a chyngor ar yr holl agweddau hyn, a gallwn hefyd gysylltu â’r ysgol a’u helpu gyda’u polisïau ar gyfer gofalwyr ifainc, hyfforddi athrawon, gwasanaethau a gwersi ABGI (Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd). Deallwn sut brofiad yw bod yn ofalwr ifanc, a gallwn helpu’r ysgol i roi cefnogaeth iti, ac ar yr un pryd parchu dy breifatrwydd er mwyn osgoi cael du weld yn ‘wahanol’.
Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd mewn ysgolion, felly hwyrach y gallwn dy weld yno:
Bydd dy weithiwr estyn allan yn gallu dweud wrthyt os ydym yn dod i dy ysgol di.
Hefyd rydym yn trefnu tripiau a gweithgareddau i ofalwyr ifainc ac oedolion ifainc sy’n ofalwyr, er mwyn iti gael treulio amser gydag eraill sy’n deall pa fath o fywyd sydd gen ti, sy’n helpu cadw cydbwysedd rhwng pwysau bywyd ac ysgol.
Beth am fod yn gymdeithasol
Cyfle i dderbyn y newyddion diweddaraf, a manylion digwyddiadau, tripiau a gweithgareddau hwyl i’w gwneud ar-lein trwy gofrestru ar ein cyfryngau cymdeithasol.


Rwyt ti’n bwysig hefyd...
Deallwn pa mor bwysig yw cael mynediad at gymorth a gwybodaeth, a gallu siarad gyda rhywun.
Bydd tîm o weithwyr estyn allan y Gwasanaeth Gofalwyr Ifainc yn gwrando ac yn deall, ac yn rhoi’r wybodaeth a’r arweiniad sydd ei angen arnat.
Hefyd rydym yn trefnu ac yn cefnogi grwpiau a gweithgareddau sydd ar gael iti eu mwynhau gyda Gofalwyr Ifainc eraill, ac yn cynnig eiriolaeth (rhywun i siarad ar dy ran, er enghraifft gyda’r ysgol).

Rhifau a Dolenni Defnyddiol
999 mewn argyfwng neu 101 ar gyfer cyngor:
e.e. Dwi’n meddwl ein bod yn cael ein bwlio yn ein tŷ oherwydd mae sbwriel yn cael ei luchio i’n gardd trwy’r amser.
Kooth:
Childline:
0800 1111
MIND 16oed +:
01597 824411
PAPYRUS:
Atal hunanladdiad: 0800 068 4141
Llinell gymorth Gofalwyr Ifainc:
0300 123 1053
young carers.net:
Yn cynnig gwybodaeth ar fudd-daliadau, dolenni at sefydliadau cymorth cenedlaethol a lleol a chyfeirlyfr gwasanaethau. (9am - 8pm, Llun - Gwener (ar wahân i wyliau banc) (11am - 4pm ar y penwythnos) gallwch ofyn i rywun ffonio nôl mewn un o fwy na 170 iaith.
Choices GIG Cymru – Gofalwyr Ifainc:
Mae’r adran hon ar gyfer pobl ifanc sy’n gofalu am rywun sy’n wael neu’n anabl. Hwyrach y byddwch wedi dechrau gofalu heb sylweddoli. Yn yr adran hon, gellir dysgu mwy am: Gwybod os wyt ti’n Ofalwr Ifanc, Pwy sy’n gallu dy helpu, a Hawliau Gofalwyr Ifainc.
Ymddiriedolaeth Gofalwyr: Prif Swyddfa: 0300 772 9600
The Honeypot:
Mae honeypot.org.uk yn gweithio i gyfoethogi bywydau Gofalwyr Ifainc 5-12 oed trwy ddarparu gwasanaeth gofal seibiant
SIBS: Ar gyfer brodyr a chwiorydd plant anabl ac oedolion - Sibs.org.uk: Diben Sibs yw cefnogi pobl sy’n tyfu fyny, neu sydd wedi tyfu fyny gyda brawd neu chwaer anabl.
Siop Wybodaeth y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 01745 815 891
CAMHS: 0300 123 6661
Childline: 0800 1111
Llyw-wyr Llesiant Anabledd: Mandy Lewis a Rebecca Beech: 01824 712998 ext 2998
NSPCC: 0844 89202 75
VIVA: 01745 357941
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Conwy: Ffôn 01492 575111 Plant / 0300 456 1111 Oedolion
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych: 01824 712200 (Porth)
SPoA
Wrecsam: 01978 292039
Conwy: 0300 456111
Sir Ddinbych: 0300 4561000
Gwasanaeth Estyn Allan Gofalwyr: 01248 370797
Ymddiriedolaeth Gofalwyr: 01492 542212
Tîm Estyn Allan Gofalwyr Conwy: 01248 370797
CAB
Wrecsam: 0300 3301 178
Conwy: 0344 4772020
Sir Ddinbych: 01745 334568
Create a Smile: 01745 344303
Cruise Bereavement: 01492 536577
NACRO
Wrecsam: 01978 314313
Conwy: 01492 539940
Sir Ddinbych: 01745 369508
NEWCIS: 01745 331181
VIVA: 01745 357 941
GGT Wrecsam: 01978 292094
Stand:
Yvone: 07826 108273 Sarah: 07749 998708
Atal Digartrefedd Ieuenctid: 01978 317955
Young Minds: 0808 8025544
Mae Young Minds hefyd yn cynnig gwasanaeth neges destun - tecstiwch “YM” i 85258 (Mae plant wedi dewis yr opsiwn tecstio pan rwyf wedi tu hatgyfeirio)
Tîm o gwmpas y Teulu: 01824 712 981
STAND Gogledd Cymru: Yvone: 07826 108273 Sarah: 07749 998708
Banciau Bwyd – Gall eich Gweithiwr Estyn Allan helpu gyda mynediad at fanciau bwyd.









