Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Gofal Seibiant a Chadw’n Iach
Beth sy’n eich helpu parhau â’r rôl gofal?
Eleni mae’r Prosiect Gofal Seibiant Creadigol wedi helpu rhai teuluoedd i ystyried pa ffyrdd fyddai’n eu helpu i wneud y rôl gofal yn ddichonadwy, er mwyn cael seibiant arwyddocaol a rôl gofal dichonadwy.


Hyd yn oed yn ystod y Cyfnod Clo, mae Gofalwyr a Gofalwyr Ifainc wedi meddwl am ffyrdd fyddai o gymorth mawr iddyn nhw.
Weithiau gall olygu rhywbeth bach ac am gyfnod byr – amser i fynd am dro, ymlacio mewn baddon, cael darllen llyfr.
Adegau eraill, mae’n golygu cael cyswllt gyda rhywun arall, ffrindiau, aelodau’r teulu a Gofalwyr eraill.
Yn ystod cyfnod Covid, defnyddiwyd y ffôn, llechen neu gyfrifiadur i wireddu hyn.
Weithiau mater yw o ddiddanu’r unigolyn sy’n derbyn gofal neu ddibynyddion eraill am gyfnod.
Weithiau, mae’n golygu mwynhau gweithgaredd wrth ei hun neu ar y cyd ag anwyliaid.
Weithiau, mae’n ddarn o offer sy’n gallu para am flynyddoedd.
Weithiau, dysgu rhywbeth newydd yw.
Weithiau mater o gael rhywun i helpu gyda thasgau i ysgafnhau’r baich.
Weithiau cael gofal a/neu gymorth amgen er mwyn ichi gael gwneud rhywbeth arall yw.
Weithiau mater o archebu gwyliau byr neu wyliau, gyda’ch gilydd neu ar wahân - cael rhywbeth i edrych ymlaen ato.
Bob tro, mae’n rhywbeth sy’n llwyddo ichi.


Defnyddiwch eich dychymyg - beth fyddai’n gwneud gwahaniaeth ichi a’ch teulu i allu ymdopi â’r rôl gofal. Rydym yn awyddus ichi fanteisio i’r eithaf ar yr amser sydd ar ôl a’r cyllid sydd ar gael i wneud gwahaniaeth!
Os oes angen ychydig o gymorth arnoch i dderbyn y cymorth, gellir gwneud hynny trwy’r Prosiect Gofal Seibiant, a gyllidir gan Grŵp Llywio Gofalwyr Partneriaeth Ranbarthol Powys; maen nhw wedi cyllido Credu i helpu gyda naill ai gwybodaeth, cysylltiadau neu ychydig o arian o’r Gronfa Gofal Seibiant.
Mae’r cymorth ar gael i Ofalwyr o bob oed, Gofalwyr Ifainc, Oedolion sy’n Ofalwyr, a Rhieni sy’n Ofalwyr ar draws Powys; ar gyfer teuluoedd unigol, grwpiau a thrwy greu gwasanaethau peilot ar gyfer Gofalwyr.
Cofiwch adael inni wybod sut gall Credu eich helpu chi a’ch teulu gyda Gofal Seibiant am weddill y prosiect, sydd i fod i orffen ym mis Mawrth 2021.
Felly, cofiwch feddwl a ffonio ni os nad ydych yn gwybod ble i gychwyn: 01597 823800 neu drwy e-bostio: carers@credu.cymru








