Purple Squiggle Banner.png
 

Cyfrannu

Swyddi a Recriwtio

Ar y dudalen hon hysbysebir manylion lleoedd gwag ar gyfer Staff a Gwirfoddolwyr gyda Gofalwyr Ceredigion

Dewch nôl yn rheolaidd i weld diweddariadau.

Image by Nathan Anderson

Cyfleoedd newydd i Ymuno â’r Tîm 

GWEITHWYR CYMORTH I OFALWYR

Ydych chi’n chwilio am swydd wobrwyol a buddiol?

Dewch i ymuno â’n tîm ni yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, sy’n rhoi cymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl

Carers Trust North Wales_edited.png

Cyfleoedd Gwirfoddoli

 

Ymddiriedolwyr (gwirfoddol/di-dâl)

Rydym yn chwilio am bobl sy’n poeni am Oedolion sy’n Ofalwyr i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Os oes gennych ddiddordeb, ffoniwch Marie ar 01597 823800 neu gellir e-bostio: hr@credu.cymru

Woman in Wheelchair in Greenhouse
Purple Squiggle Banner.png
 

Gwirfoddoli

White line Squiggle.png

Gallwch wneud gwahaniaeth i Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd   sy’n addas i CHI! 

Lawrlwytho ffurflen Datgan Diddordeb yma 

Os hoffech gefnogi Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd anffurfiol fel rhan o’ch gwaith gwirfoddol gyda grŵp neu sefydliad arall, neu os hoffech wirfoddoli gyda Gofalwyr Ceredigion, mae amrediad eang o ffyrdd bach a mawr cyffrous ichi gyfrannu i gefnogi Oedolion sy’n Ofalwyr yn eich cymuned chi!

 

Ymhlith enghreifftiau o’r rolau mae: cymorth dros y ffôn i ofalwyr; helpu allan mewn grwpiau; sefydlu clybiau gwaith cartref; staffio siopau elusennol; ysgrifennu erthygl ar gyfer cylchgrawn Gofalwyr a llawer mwy. Byddem yn hoffi dod i’ch adnabod CHI: eich diddordebau, eich sgiliau, eich syniadau a’ch profiadau bywyd a’r hyn rydych yn frwdfrydig amdano. Credwn fod gan bob unigolyn safbwynt unigryw a sgiliau sy’n werthfawr i eraill. Rydym wedi ymrwymo i’ch galluogi i ffynnu yn y rôl rydym yn ei chreu gyda’n gilydd. 

 

Mae'r cyfrifoldebau gwirfoddoli gyda’r sefydliad yn hyblyg, ac yn rhoi rheolaeth llwyr mwy neu lai ichi dros eich oriau a’ch llwyth gwaith. Mae pob eiliad o’ch amser yn bwysig inni, ac ni fyddwn yn rhoi pwysau arnoch i wneud mwy nag y byddech yn dewis. Os byddai’n well gennych gynnig cymorth personol neu arwain grwpiau mawr, neu os hoffech estyn gwahoddiad i siaradwyr gwadd i’ch grŵp lleol i godi ymwybyddiaeth am Ofalwyr, gall Credu roi gwybodaeth/hyfforddiant/cymorth ichi wneud hynny.

 

"Nid peth hawdd bob amser yw cefnogi Gofalwyr fel un o wirfoddolwyr Credu, ond mae wastad yn werth chweil.  Yn fy llygaid i, nid wyf yn gwneud llawer iawn, siarad gyda neu’n gwrando ar Ofalwyr rwyf yn eu cefnogi; ond mae rhyw deimlad enfawr o fraint mai gyda fi y mae Gofalwr yn dewis rhannu ei deimladau, heriau a meddyliau. Rwyf yn llawn edmygedd ar gyfer y Gofalwyr rwyf yn eu cefnogi, ac os bydd fy ngalwadau i ar ran Credu yn rhoi ychydig o gymorth iddynt, mae hynny’n ddigon o gyfiawnhad imi.” – John Raftree, un o Wirfoddolwyr Credu . 

Mae Credu yn gosod y sylfeini i groesawu gwirfoddolwyr newydd a’u cynorthwyo gyda’u teithiau personol a phroffesiynol. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi dyrannu 6 mis o gyllid i Credu, i’n galluogi i recriwtio, hyfforddi a chefnogi mwy o bobl er mwyn cefnogi Gofalwyr o bob oed yn ystod pandemig Covid-19 a thu hwnt. Ein nod yw galluogi pobl sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad i gael lle priodol unigol o fewn y sefydliad, gan greu eu syniadau eu hunain a gweithio yn eu cymunedau eu hunain. Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd â chynllun a brwdfrydedd i wireddu hyn, a byddwn yn rhoi cymorth a chefnogaeth llawn iddynt. 

Mae’r holl sesiynau am ddim, ac mae Credu’n gweithio i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. 

Purple Squiggle Banner.png

Rydym yn awyddus i...

Mae Credu am ddefnyddio dulliau arloesol i recriwtio ac ymgysylltu â Gwirfoddolwyr.

Mae Credu am greu diwylliant o fewn y sefydliad sy’n grymuso ac yn cymell Gwirfoddolwyr, a sicrhau bod ganddynt gyfrifoldebau arwyddocaol.

Mae Credu yn dymuno diolch i Wirfoddolwyr trwy gynnig hyfforddiant ac amser myfyriol er mwyn datblygu eu hunain.

Friends

Ein Proses  

 

  • Gofynnir i wirfoddolwyr lenwi ffurflen gais i Wirfoddoli, sy’n cynnwys proffil un tudalen.

  • Bydd angen i wirfoddolwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant neu oedolion agored i niwed mewn rôl goruchwylio wneud cais am wiriad DBS

  • Byddwn yn gofyn am dystlythyrau – un proffesiynol ac un personol lle bo’n bosib 

  • Dim ond un tystlythyr fydd ei angen i weithio mewn un o’n siopau.

  • Gall yr hyfforddiant sylfaenol gynnwys

- Cyflwyniad Powerpoint cychwynnol ar ddiogelu, ac wedyn sesiwn hyfforddi undydd ar Ddiogelu

-Cymorth cyntaf yn y gwaith

-Diogelu data - E -ddysgu

-Trin a thrafod â llaw

-Hyfforddiant penodol ar gyfer y siopau

  • Cedwir manylion gwirfoddolwyr ar ein bas data

  • Dynodir Pwynt Cyswllt o fewn Tîm Credu i bob Gwirfoddolwr

  • Estynnir gwahoddiad i wirfoddolwyr fynychu sesiynau myfyrio gyda chydweithwyr, cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd prosiect penodol perthnasol.

Handshakes

Ein Nodau

  • Grymuso gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu cryfderau gyda Credu.

  • Gwirfoddolwyr yn teimlo bod ganddynt gysylltiadau ac maent yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o dîm ehangach Credu 

  • Cydnabyddwn fod gan bob unigolyn gryfderau, ac y gall pawb gyfrannu rhywbeth 

  • Rydym yn awyddus i alluogi Gwirfoddolwyr i ffynnu a thyfu o fewn ein sefydliad

Cysylltiadau defnyddiol 

Gellir lawrlwytho Ffurflen Datgan Diddordeb yma

Gwefan CGGC ar gyfer adnoddau

Gwefan Gwirfoddoli Cymry i hysbysebu swyddi ac i chwilio am Wirfoddolwyr

Credydau Amser Tempo i’w defnyddio ar gyfer swyddi Gwirfoddolwyr lle bo’n briodol

CAVO, Canolfannau gwirfoddoli

Prosiect Eden ar gyfer cyrsiau/syniadau prosiect ym maes datblygu cymunedol

Ceredigion Council Logo.png
Ceredigion Carers Logo
Purple Squiggle Banner.png